fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Steven K Amos

Mae Stephen K Amos wedi difyrru cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’i gyn-brofiadau doniol y gellir uniaethu â nhw, yn gymysg â materion diwylliannol, gydag ysbeidiau o’i ffraethineb cyflym a’i amseru digri’ gwych. Mae Stephen yn enwog am ei ymddangosiadau rheolaidd yng nghlybiau comedi Llundain ac yn y byd comedi rhyngwladol. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ar deledu Prydain ac Awstralia a dechreuodd ei yrfa fel cyflwynydd comedi yng nghlybiau comedi Big Fish yn Llundain lle cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Cyflwynydd Gorau Chortle dair gwaith.

Paul Tonkinson

Mae Paul Tonkinson, perfformiwr byw gwych, dyn o Swydd Efrog, rhedwr marathon a chyn-enillydd gwobr Digrifwr y Flwyddyn Time Out (mae wedi’i hennill ddwywaith), wedi cynnal ei enw da fel un o ddigrifwyr gorau’r DU ers amser hir. Gydag arddull unigryw a nodedig, mae Tonkinson yn enwog am ei natur gorfforol fyrlymol, ei ddynwarediadau medrus, sy’n cyfleu myfyrdodau afieithus, tyner a doniol ar gariad, teulu a hynodweddau dyddiol bywyd yn ystod yr 21ain ganrif.

Ninia Benjamin

Mae Ninia Benjamin yn ddigrifwr pwerus… mae’n ddigywilydd iawn ond yn ddoniol tu hwnt. Daeth Ninia yn enwog fel un o dri aelod o 3 Non-Blondes BBC2 ac mae wedi ymddangos mewn sioeau amrywiol gan gynnwys Celebrity Masterchef (cogydd ofnadwy ond un doniol iawn) ond mae ei doniau comedi’n disgleirio wrth iddi berfformio’n fyw ar y llwyfan. Yn ei geiriau hi, “Os ‘dwi’n  meddwl ei fod yn ddoniol, byddwch chi’n meddwl ei fod yn ddoniol!”

Mike Gunn

Mae hanes Mike Gunn mor ddiddorol a difyr a’i gomedi. Roedd ieuenctid afradlon a chyfres o swyddi gwael wedi magu ei agwedd sinigaidd at fywyd ac roedd awydd gwrthnysig wedi’i arwain at fyd comedi. Mae’n cyfaddef ei hun ei fod yn besimist, ac yn disgrifio’i hun fel “dewis annaturiol ar gyfer gyrfa mewn comedi”. Disgrifiwyd ei gomedi ddigalon fel comedi sy’n ‘sychach nag esgyrn dyn marw’. Mae ganddo allu prin i gerdded yn agos at y ffin o ran yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ystyried yn dderbyniol ac eto’n parhau i fod yn hoffus ac yn ddoniol. Nid yw ei enw o fod yn anghyfeillgar, ychydig yn ddigalon a hyd yn oed yn sarrug yn wir. Mewn bywyd go iawn mae’n gariadus, yn gynnes ac yn ddyngarol. Mae’n cael ei gamddeall.

Dyddiad
21 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
27.00