Rydym mor gyffrous i gyhoeddi bod Y Penwythnos Mwyaf gan BBC Music yn dod i Barc Singleton yn Abertawe ddydd Sadwrn 26 Mai a dydd Sul 27 Mai!
Gyda pherfformiadau gan sêr mwyaf poblogaidd y byd cerddoriaeth mewn cyngherddau a gynhelir gan BBC Radio 1, 1Xtra a’r Asian Network, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC 6 Music, mae disgwyl iddo fod yn ddathliad o gerddoriaeth mwyaf y BBC ar y teledu, y radio, ar-lein ac ar ffonau symudol. Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn Abertawe!!
Main Stage
Sam Smith, Ed Sheeran, Craig David, Jess Glynne, George Ezra, Year & Years, Liam Payne, Clean Bandit, Anne-Marie
Radio 1’s Other Stage
Bastille, Wolf Alice, Chvrches, Mo, Mabel, Not3s, Sigrid, Jorja Smith, Steel Banglez
Main Stage
Florence and the Machine, Taylor Swift, Thirty Seconds to Mars, Rita Ora, Camila Cabello, Shawn Mendes, Niall Horan, Jason Derulo, Demi Lovato
Radio 1’s Other Stage
James Bay, Pan!c at the Disco, Christine and the Queens, J Hus, Jessie Ware, Stefflon Don, Hailee Steinfeld, Jax Jones, Tom Walker
Bydd tocynnau ar werth ddydd Llun 12 Chwefror am £18 gyda ffi archebu o £4.50. I gael mwy o wybodaeth, ewch i
Mae Bae Abertawe yn ne-orllewin Cymru, yng ngorllewin y Deyrnas Unedig, ac mae’n hawdd ei gyrraedd mewn car, trên, coets, llong neu awyren. 3½ awr yn unig o Lundain mewn car, a 2¾ awr o Birmingham. Yn ogystal, mae gwasanaethau trên a bws cyflym ac aml yn cysylltu dinasoedd mwyaf y DU â Bae Abertawe.
Parc Singleton
Danteithion i lysfwytawyr, siopau coffi cysurus, tai bwyta blasus, caffis gwych a’r mannau yfed gorau. Dyma ein lleoedd bwyta ac yfed poblogaidd ym Mae Abertawe!
Meddai Nick Grimshaw, cyflwynydd rhaglen frecwast BBC Radio 1, “Rydych chi’n gwybod bod yr haf wedi dechrau pan fyddwn yn cynnal yr ŵyl enfawr hon, ac rydym yn dod â dau o artistiaid mwyaf y byd i Abertawe. Mae Taylor ac Ed, yn ogystal â rhestr hir o berfformwyr sydd i’w cyhoeddi, yn golygu mai Y Penwythnos Mwyaf fydd digwyddiad gorau’r flwyddyn.”
Rydym yn edrych ymlaen!!!!