Y Clogwyn, Gwyr
Gweld Mwy

 
When?: Arddangosfa Pendant
Where?: Canolfan Dylan Thomas
How Much?: Am ddim!

7 niwrnod yr wythnos, 10.00am – 4.30pm

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi yr agorwyd ein harddangosfa newydd am Dylan Thomas ar 27 Hydref. Roedd hyn yn bosib ar ôl derbyn £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a oedd yn golygu bod modd i ni adnewyddu ac ehangu ein harddangosfa i roi gwell dealltwriaeth i chi am un o ffigurau diwylliannol mwyaf blaenllaw Abertawe.

Gallwch glywed rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd yn darllen llinellau o waith enwog Dylan Thomas; mae lleisiau’r Tywysog Charles a Richard Burton yn eu plith. Hefyd mae arddangosfeydd sgrîn gyffwrdd ryngweithiol sy’n canolbwyntio ar dechneg Dylan, cyfle i chi edrych ar y nodiaduron a ysgrifennodd yn Abertawe rhwng 15 a 19 oed, a dysgu mwy am yr amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth yn Ninas Efrog Newydd ym 1953.

Mae’r grant gan CDL hefyd wedi caniatáu i ni greu rhaglen addysg ac allgymorth er mwyn helpu i gynnal etifeddiaeth Dylan ac ysbrydoli pobl o bob oedran ar draws y ddinas.
&nbsp:
Canolfan Dylan Thomas:
 

Dyddiad
23 TACH 2014 - 24 TACH 2021
Lleoliad
Dylan Thomas Centre