Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!
Yn ein harweiniad, cewch hyd i ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Abertawe gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sef digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, digwyddiadau chwaraeon mawr fel 10k Bae Abertawe ac Ironman 70.3 Abertawe, cyngherddau ym Mharc Singleton, ffefrynnau tymhorol fel Gŵyl Croeso, Gorymdaith Nadolig Abertawe a llawer mwy.
Cynhelir llu o ddigwyddiadau gwych o gyngherddau a sioeau yn Arena Abertawe, Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn, i gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau penigamp yng nghanol y ddinas sy'n arddangos y doniau lleol gorau, i arddangosfeydd yn ein hamgueddfeydd a'n horielau, a mwy.
Oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech ei ychwanegu at ein hadran 'Digwyddiadau'? Gallwch ei gyflwyno am ddim i'w gynnwys yn ein rhestr o ddigwyddiadau yma.
Digwyddiadau dan sylw
IRONMAN 70.3 Abertawe
Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd…
10k Bae Abertawe Admiral
Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar gyfer ei 43ain ras ar 15 Medi 2024, hyfryd Abertawe ac…
Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn Abertawe
Digwyddiadau yn ôl categori
Theatr a Chelfyddydau Perfformio
Ym Mae Abertawe, mae pob noson yn gyfle i weld sioe wahanol yn rhai o leoliadau gorau'r wlad.
Cerddoriaeth Fyw a Chyngherddau
Mae Abertawe'n lle sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a ph'un a ydych yn chwilio am nosweithiau anffurfiol a chartrefol lle'r arddangosir y doniau lleol gorau, theatrau sy'n croesawu…
Arddangosfeydd
Mae Bae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o orielau celf, amgueddfeydd a chanolfannau sy'n golygu, p'un a ydych yn hoff o gelfyddyd gain, cerameg, celf gyfoes neu unrhyw fath arall o…
Digwyddiadau Chwaraeon
Gyda'u milltiroedd o forlin a thraethau trawiadol, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer digwyddiadau chwaraeon anhygoel.
Comedi
Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o gomedi.
Digwyddiadau Bwyd a Diod
Oes chwant bwyd arnoch chi? Mae Abertawe yn cynnal digwyddiadau bwyd a diod penigamp bob blwyddyn
Y Celfyddydau a Diwylliant
Y Celfyddydau a Diwylliant
Digwyddiadau Tymhorol
Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.
Addas i Deuluoedd
Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a…
Ychwanegwch eich digwyddiad
Ni yw cartref digwyddiadau yn Abertawe a gallwch ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestrau am ddim - dyma gyfle gwych i gyflwyno eich digwyddiad i filoedd o ymwelwyr yn ddyddiol.
Digwyddiadau yr wythnos hon
- Amgueddfa Abertawe
- May 24, 2025 - Dec 31, 2025
Arddangosfa
Amgueddfa Gyntaf Cymru Arddangosfeydd
- Brangwyn
- May 24, 2025
Cyngerdd
An Intimate Evening with Paul Young
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- May 24, 2025 - Jun 1, 2025
Arddangosfa
Ar Frig y Don – RNLI Cymru 200
May
24
Ychwanegwch eich digwyddiad
Gallwch ei gyflwyno am ddim a byddwn yn ei gynnwys ar ein rhestr ddigwyddiadau