Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Yn ein harweiniad, cewch hyd i ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Abertawe gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sef digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, digwyddiadau chwaraeon mawr fel 10k Bae Abertawe ac Ironman 70.3 Abertawe, cyngherddau ym Mharc Singleton, ffefrynnau tymhorol fel Gŵyl Croeso, Gorymdaith Nadolig Abertawe a llawer mwy.  

Cynhelir llu o ddigwyddiadau gwych o gyngherddau a sioeau yn Arena Abertawe, Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn, i gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau penigamp yng nghanol y ddinas sy'n arddangos y doniau lleol gorau, i arddangosfeydd yn ein hamgueddfeydd a'n horielau, a mwy.  

Oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech ei ychwanegu at ein hadran 'Digwyddiadau'? Gallwch ei gyflwyno am ddim i'w gynnwys yn ein rhestr o ddigwyddiadau yma

Digwyddiadau dan Sylw

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Bydd Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Abertawe yn dod â chyffro’r West End i San Helen ar 5 Tachwedd gyda ‘Sioeau Cerdd gyda’r Hwyr’. Bydd y gatiau’n agor am 5pm a bydd yr adloniant cyn y sioe’n dechrau am 5.30pm. Bydd y brif arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm.

Hwyl yr hanner tymor hwn

Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn Abertawe

Digwyddiadau yn ôl categori

Arddangosfeydd

Mae Bae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o orielau celf, amgueddfeydd a chanolfannau sy'n golygu, p'un a ydych yn hoff o gelfyddyd gain, cerameg, celf gyfoes neu unrhyw fath arall o…

Digwyddiadau Chwaraeon

Gyda'u milltiroedd o forlin a thraethau trawiadol, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer digwyddiadau chwaraeon anhygoel.  

Comedi

Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o gomedi.

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Addas i Deuluoedd

Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a…

Ychwanegwch eich digwyddiad

Ni yw cartref digwyddiadau yn Abertawe a gallwch ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestrau am ddim - dyma gyfle gwych i gyflwyno eich digwyddiad i filoedd o ymwelwyr yn ddyddiol.

Digwyddiadau dros y penwythnos

    Cerddoriaeth Fyw

  • Nov 2, 2024

De'Lour

02 Nov

Joio Abertawe'r gaeaf hwn

Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i chi ar draws canol y ddinas…