fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Y Mwmbwls

Share

Y Mwmbwls

Croeso i bentref clyd a chosmopolitanaidd y Mwmbwls. Dyma un o hoff fannau Dylan Thomas ac mae’n gartref i hufen iâ anhygoel hefyd.

Yn Borth i Benrhyn Gŵyr

Mae’r Mwmbwls yn nodi dechrau arfordir Penrhyn Gŵyr. Mae’n ardal hyfryd o Abertawe a, phan ewch yno, mae’n amlwg pam!

Mae digon o bethau i’w gwneud yn y Mwmbwls. Maen nhw’n dweud eich bod chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, beth am ddysgu ychydig o bethau pan fyddwch chi’n ymweld? Amgylchynwch eich hunan yn hanes a thraddodiad yr ardal hon. Mae goleudy a adeiladwyd ym 1794 a Phier Fictoraidd. Mae Castell Ystumllwynarth hefyd yn werth ymweld ag ef, yn sefyll ar ben bryn gyda golygfeydd godidog dros y môr.

Therapi Manwerthu

Os ydych am fynd i siopa, bydd y Mwmbwls yn berffaith. Mae llawer o siopau moethus, bwtigau annibynnol ac orielau diddorol, lle gallwch roi trît i chi’ch hunan wrth ymweld â’r Mwmbwls! Dillad gan ddylunwyr, crefftau llaw neu hyd yn oed dillad syrffio, bydd rhywbeth yma i bawb.

Mae’r Mwmbwls yn fan delfrydol os ydych chi am gael eich maldodi ac ymlacio hefyd. Dewch i ddianc ac ymlacio mewn un o’r salonau a sbâu arobryn, neu rhowch anrheg i rywun arbennig!

 

Bendigedig i Bobl sy’n Ymddiddori mewn Bwyd

Awydd bwyd? Ni fyddai’r un ymweliad â’r Mwmbwls yn gyflawn heb brofi rhai o fwydydd môr lleol yr ardal, yn syth o’r cwch pysgota, neu rai o’r bwydydd cartref gorau sydd ar gael – blasus iawn! Dewch i brynu rhai siocledi hyfryd wedi’u gwneud â llaw (rydych chi’n eu haeddu) neu rhowch gynnig ar hufen iâ byd-enwog y pentref, pa flas fyddwch chi’n ei ddewis?

Mae amrywiaeth o ffyrdd o gyrraedd y Mwmbwls – mewn car, ar y bws, ar y beic (ar hyd y prom), ar drên bach Bae Abertawe (sy’n gweithredu yn ystod misoedd yr haf).

Cofiwch ddewis eich llety yn y Mwmbwls yn ddoeth. Ar ôl gwneud a gweld cymaint, bydd angen noson dda o gwsg arnoch chi!

Pethau i’w gwneud, lleoedd i aros:

Archwilio Cyrchfannau