Fel cyrchfan cyfrifol, hoffai Bae Abertawe gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r ardal.
*Diweddariad i Reoliadau Coronafeirws Cymru*
O 19 Rhagfyr, mae Abertawe yn Haen 4 cyfyngiadau COVID-19, ynghyd â gweddill Cymru, mewn ymgais i atal y cynnydd mewn achosion COVID-19 ledled y wlad. O ganlyniad;
- Dilynwch reolau cadw pellter cymdeithasol gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw neu nad ydynt yn rhan o’ch swigen gefnogaeth.
- Gwisgwch orchudd wyneb (os gallwch) ym mhob lleoliad cyhoeddus dan do.
- Arhoswch gartref
- Peidiwch â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth).
- Peidiwch â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu sydd yn eich swigen gefnogaeth.
- Peidiwch â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth mewn gardd breifat.
- Peidiwch â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn yr awyr agored.
- Gweithiwch gartref os gallwch
- Peidiwch â theithio heb esgus resymol a pheidiwch â theithio dramor heb esgus resymol
- Mae busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, lleoliadau hamdden, campfeydd a lleoliadau lletygarwch a llety gwyliau ar gau.
- Rhaid i leoliadau lletygarwch gau ac eithrio ar gyfer gwasanaethau cludfwyd neu ddanfoniadau
- Bydd Llyfrgelloedd ac archifdai yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu’n unig
- Bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu’n unig.
- Bydd lleoliadau ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau, theatrau a neuaddau cyngerdd, atyniadau awyr agored a dan do i ymwelwyr, lleoliadau adloniant, cyrtiau chwaraeon a chyrsiau golff yn gorfod cau hefyd
Bydd y rheolau Lefel 4 hyn ar waith nes bod lefelau achosion Coronafeirws yn gostwng.
Ffurfio ‘Swigen Nadolig’ gyda theulu a ffrindiau
Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno bod y Nadolig yn amser pwysig o’r flwyddyn i deulu a ffrindiau, felly rhwng 25 Rhagfyr daw rheolau newydd i rym sy’n rheoli pwy sy’n gallu cwrdd a sut. Dilynwch y DDOLEN HON i gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau yng Nghymru.
Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio fel y bo’n briodol.