fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Chwaraeon Dŵr

Share

Anturiaethau Morol

WatersportsMae ein glannau’n cynnig llond llong o anturiaethau dyfrol, gan gynnwys syrffio, arfordiro, padlo bwrdd ar eich traed, canŵio, caiacio, syrffio barcut a hwylfyrddio. Byddwch yn ddewr ar eich pen eich hun, neu cadwch le gydag un o’n darparwyr gweithgareddau niferus. Dyma’r gorau yn y maes… ac mae ganddynt y gwobrau i brofi hynny! Mae croeso i bawb, boed yn blant neu’n oedolion, yn ddechreuwyr pur neu’n geiswyr gwefr profiadol sydd am fireinio eu sgiliau.

 


Gweithgareddau Gwlyb

WatersportsByddwch yn dod ar draws lleoliadau sy’n wlyb ac yn wych ym mhob man. Mae Bae Abertawe yn Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Dŵr. Galwch draw i Chwaraeon Dŵr a Thraeth 360 – y ganolfan weithgareddau ar lan y môr sy’n cynnig popeth o gaiacio yn y môr i badlo bwrdd ar eich traed, sef un o gampau dŵr mwyfwy poblogaidd y byd. Does dim angen y môr arnoch yn LC Abertawe hyd yn oed, ein parc dŵr poblogaidd sy’n cynnig syrffio dan do. Ar benrhyn Gŵyr, mae Llangynydd wedi bod yn hwb syrffio poblogaidd ers y 1960au, pan drodd yr arwr lleol, Peter ‘PJ’ Jones, yn un o syrffwyr enwog cyntaf Prydain Fawr. Mae bae gwyntog Broughton yn boblogaidd iawn gyda syrffwyr barcut, ac mae ymylon creigiog y penrhyn yn cynnig cyfleoedd arfordiro diddiwedd.