fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Castell Abertawe

Legendary Castle TrailEr ei fod yn fach o’i gymharu ag adeiladau modern canol y ddinas sydd o’i gwmpas erbyn hyn, roedd Castell Abertawe yn arfer bod yn gaer bwerus â phwysigrwydd strategol enfawr. Ers y 13eg ganrif, mae wedi goroesi gwarchaeoedd, gwrthryfeloedd a hyd yn oed y Blitz. Mae helwyr ysbrydion yn credu bod ysbryd menyw sy’n gwisgo glas yn y castell. Yn ôl y straeon, mae’r ysbryd yn crwydro tiroedd y castell, gan ddiflannu’n syth pan fydd rhywun yn nesáu ati. Mae llawer o bobl yn dweud eu bod wedi’i gweld hi, ond does neb yn gwybod pwy oedd hi na pham bod ei hysbryd yma.

 


 

Castell Ystumllwynarth

Legendary Castle Trail
Mae’r gaer hon o’r Oesoedd Canol wedi sefyll uwchben Bae Abertawe ers y 12fed ganrif ac mae ganddi hanes diddorol fel cartref i Arglwyddi Gŵyr, caer a charchar! Ymwelodd Brenin Edward I â hi ar ei daith o amgylch Cymru ym 1284 ar ôl iddo ladd Llywelyn ein Llyw Olaf. Drwy groesi pont wydr o’r radd flaenaf ar draws llawr cyntaf coll y castell, gellir gweld celf graffiti o’r 14eg ganrif yn y capel yn ogystal ag enghraifft wych o ffenestr rwyllog. Mae gan yr adeilad hynafol hwn ysbryd hefyd – yr Arglwyddes Wen.

 


 

Castell Pennard

Legendary Castle TrailMae amddiffynfeydd aruthrol Castell Pennard yn dyddio’n ôl i gyfnod cythryblus y 12fed ganrif, ac o ganlyniad i’w safle agored uwchben Bae’r Tri Chlogwyn mae’r tywydd wedi’i erydu i fod yr adfail rhamantus a welwn heddiw. Ond mae chwedloniaeth leol yn adrodd stori wahanol; gwrthododd Arglwydd Pennard ganiatáu i dylwyth teg Gŵyr ddawnsio yn ei briodas, felly codasant storm dywod enfawr a ddinistriodd y gaer. Credir hefyd fod adfeilion atgofus Pennard yn gartref i Wrach-y-rhibyn, fersiwn Gymreig o shrieking banshee Iwerddon.


 

Castell Oxwich

Legendary Castle TrailAr ben bryn uwchben Bae Oxwich, mae’r castell wedi goruchwylio pentref Oxwich ers cyfnod y Tuduriaid. Mae’n debycach i blasty caerog, ac fe’i hadeiladwyd ar safle caer gynharach gan y Manseliaid dylanwadol er mwyn creu argraff. Dywedir mai porth y castell oedd y man lle cafwyd brwydr farwol rhwng dau o deuluoedd blaenllaw Gŵyr – y Manseliaid a’r Herbertiaid – lle lladdwyd un fenyw, Anne Mansel, pan gafodd ei tharo ar gam gan garreg.

 


 

Castell Weble

Legendary Castle TrailPlasty caerog arall, sy’n sefyll yn urddasol ar ben bryn uwchben Moryd Llwchwr. Adeiladwyd y rhan o’r adeilad sy’n dal i sefyll yn y 14eg ganrif. Bu’r castell ym meddiant rhai o deuluoedd mwyaf pwerus Gŵyr yn ystod yr Oesoedd Canol ac Oes y Tuduriaid. Teulu de la Bere i ddechrau, yr Herbertiaid a hefyd y Manseliaid – un o deuluoedd pwysig Oes y Tuduriaid gyda Syr Rice Mansel yn ennill statws ddylanwadol yn llys Harri’r Wythfed. Saif Castell Weble ar fuarth fferm weithiol ym mhenrhyn Gŵyr sy’n arbenigo mewn cig oen morfa heli.

 


 

Castell Casllwchwr

Legendary Castle TrailDim ond y tŵr sydd ar ôl o’r castell hwn o’r 12fed ganrif, ond mae ei leoliad ger aber moryd afon Llwchwr wedi’i werthfawrogi oherwydd ei bwysigrwydd strategol ers yr 2il ganrif. Sefydlwyd caer Leucarum gan y Rhufeiniaid ar y safle hwn i amddiffyn y ffordd i benrhyn Gŵyr. Codwyd cloddweithiau ar safle’r gaer, ac yna yn y 13eg, adeiladwyd y tŵr a welir yno heddiw.