Gallwch archwilio Llanrhidian ar droed gyda’r 3 llwybr cerdded hwn.
Mae cymuned Llanrhidian Uchaf yn cynnwys pentrefi Crofty, Llanmorlais, Pen-clawdd, y Crwys a Blue Anchor. Gyda thros 38 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus sy’n arwain trwy goetiroedd hynafol ac ar draws tir ffermio, tir comin a morfeydd heli, gall llwybrau amrywiol yr ardal arwain at olygfeydd hyfryd ac annisgwyl.
Lawrlwythwch y map llwybr i ddysgu rhagor am y 12 o leoliadau o ddiddordeb hanesyddol a’r bywyd gwyllt gallwch ddod o hyd iddynt ar hyd y ffordd.
Pellter: 3.5km neu 2.25 milltir
Amser amcangyfrifol: 50 munud
Pellter: 2.5km neu 1.5 milltir
Amser amcangyfrifol: 50 munud
Pellter: 7.5km neu 4.6 milltir
Amser amcangyfrifol: 2 awr
Sylwer: yn gyffredinol, mae signal ffonau symudol yn dda ar hyd y llwybrau hyn, ond gall fod yn wael ar waelod dyffrynnoedd. Mae’r tywydd yn gallu newid yn gyflym, felly efallai y bydd angen dillad dwrglos ac esgidiau cadarn arnoch.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: