fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Llwybr Treftadaeth Pontarddulais yn eich arwain drwy dref fach Gymreig sy’n llawn straeon. Gyda dwy garreg goffa i nodi Terfysgoedd Beca, un ar bob pen y pentref, mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am arwyr y frwydr honno, effaith y dref ar feirdd enwog fel Dylan ac Edward Thomas ac, wrth gwrs, safle Eglwys Teilo Sant o’r 7fed ganrif – a fu fyw yn yr un cyfnod â Dewi Sant ac a allai fod wedi cael ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru. Taith gerdded gylchol drwy bentref Pontarddulais yw hon, sy’n cynnwys safle’r eglwys o’r 12fed ganrif, Llandeilo Tal-y-bont.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd.
Math o lwybr: Cylchol
Yn addas ar gyfer: Pawb.
Natur y tir: Llwybr cymharol wastad, ar lonydd, traciau a llwybrau yn bennaf.
Cychwyn a gorffen: Prif ffordd yr A48 lle mae’n cwrdd â mynedfa gorsaf drenau Pontarddulais ar y bont dros afon Llwchwr.
Pellter y daith: Tua 4 milltir (6km).
Amser cyfartalog: 2.5 awr.

Map o’r llwybr

Os yw’r daith gerdded hon yn apelio atoch, beth am lawrlwytho’r arweiniad llwybrau cerdded bychan gwych hwn. Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Dinas a Sir Abertawe sydd wedi’i lunio, a bydd yn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cludiant cyhoeddus: Oes.
Maes parcio: yng ngorsaf drenau Pontarddulais ac yng nghanol y pentref o fewn pellter cerdded byr.
Lluniaeth: Amrywiaeth o gaffis a thafarndai ar hyd y llwybr sy’n darparu lluniaeth.
Toiledau cyhoeddus: Oes, yng nghanol y pentref.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.

 

Gwybodaeth am Ddiogelwch

Mae rhannau o’r daith gerdded yn ymyl glan afon a all fod yn llithrig ar adegau yn dilyn glaw. Mae hefyd yn llanwol a gall y tir ger y fynwent fod yn wlyb iawn weithiau.

Manylion y daith gerdded

  • Mae’r daith gerdded yn dechrau ar brif ffordd yr A48 lle mae lôn yr orsaf drenau yn cwrdd â hi, ger y bont dros afon Llwchwr.
  • Cerddwch i ganol y pentref gan wyro ychydig i’r dde a byddwch yn cyrraedd tafarn y Farmers Arms.
  • Trowch i’r dde yma a chadwch at y chwith ar hyd Heol Coedbach nes i chi gyrraedd y parc.
  • Trowch i’r dde rhwng y caeau rygbi a phêl-droed ac i’r chwith ar hyd llwybr amlwg.
  • Ar ôl mynd trwy glwyd fechan, ewch ymlaen tua 20m arall ac fe welwch glwyd fechan arall ar y chwith.
  • Ar ôl i chi fynd drwyddo, dilynwch y llwybr ar hyd lan yr afon nes i chi gyrraedd Llandeilo Fach (hen ffermdy) a mynwent sy’n nodi safle eglwys Llandeilo Tal-y-bont o’r 12fed ganrif.
  • Cerddwch heibio’r ffermdy a dilynwch y llwybr o dan y draffordd nes i chi ddod ar draws nant ger fferm (Castell Du).
  • Bydd y ffordd fetlin yn eich arwain at Waungron ar y B4296.
  • Trowch i’r chwith ac ewch yn ôl tuag at Bontarddulais.
  • Ychydig ar ôl i chi groesi’r draffordd, chwiliwch am lwybr ar eich chwith a fydd yn mynd â chi yn ôl tua’r parc a’r pentref.

Uchafbwyntiau

  • Mae’r llwybr yn mynd ar hyd hen safle eglwys Llandeilo Tal-y-bont o’r 12fed ganrif a gafodd ei chludo a’i hailadeiladu’n ofalus i’w harddangos yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
  • Roedd yr ysgrifennwr emynau enwog, Dafydd Williams, yn byw yn Llandeilo Fach. Ei emyn enwocaf oedd “Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau”.
  • Mae’r llwybr yn mynd ar hyd prif stryd Pontarddulais lle mae nifer o siopau ac amwynderau annibynnol lleol ar gael.

 

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: