Archwiliwch safle Pen-maen, pentref hynafol wedi’i gladdu gan dywod. Mwynhewch olygfeydd godidog o Fae y Tri Chlogwyn. Mwynhewch y blodau gwyllt sy’n arogli’n hyfryd. Dyma enghreifftiau o’r wledd y gallwch ei mwynhau ar hyd y llwybr hwn. Lawrlwythwch fap o’r llwybr i gael rhagor o wybodaeth.
Dechrau a Gorffen: | Safle bws ym Mhen-maen |
Pellter/amser: | Oddeutu 1 1/4 milltir, 1/2 awr – 1 awr |
Natur y tir: | Mae arwyneb y tir yn amrywio o galed i feddal ac anwastad. Mae 2 lethr serth. |
Gwybodaeth am Ddiogelwch: | Byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd brysur. Mae’r llwybr yn agos at glogwyni a llethrau serth uwch ben yr arfordir. |
Byddwch yn barod: | Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer yr amodau a’r tymor. |
Lluniaeth: | Siop/caffi a thafarn yn Parkmill, 2 filltir tuag at Abertawe. |
Toiledau Cyhoeddus: | Dim. |
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: