Mae hon yn daith gerdded gymharol hawdd o amgylch Cronfa Ddŵr Lliw Isaf, lle gallwch fwynhau golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Lliw.
Graddio’r Daith Gerdded: | Hawdd |
Math o lwybr: | Crwn. |
Yn addas ar gyfer: | Pawb – ond dylai plant gael eu goruchwylio bob amser. |
Natur y tir: | Mae’r llwybr yn cynnwys tir anwastad: arwynebau caled, cadarn a llyfn. Ceir llwybr troed cul â chwymp serth. |
Dechrau: | Maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw Isaf, y gellir ei chyrraedd o’r ffordd rhwng Felindre a Rhyd-y-Pandy, tair milltir i’r gogledd o gyffordd 46 yr M4. |
Gorffen: | Maes Parcio Cronfa Ddŵr Lliw Isaf, y gellir ei chyrraedd o’r ffordd rhwng Felindre a Rhyd-y-Pandy, tair milltir i’r gogledd o gyffordd 46 yr M4. |
Pellter y daith: | 2 filltir. |
Amser cyfartalog: | 1-2 awr. |
Cludiant Cyhoeddus: | Manylion ar wefan BayTrans |
Mannau parcio ceir: | Ar gael ym maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw. Ar agor tan 6.00 yn y prynhawn. Pris: £2.50. |
Lluniaeth a thoiledau cyhoeddus: | Ar gael ar ddechrau’r llwybr. Gwasanaeth cludfwyd un unig ar hyn o bryd. |
Byddwch yn barod: | Gwisgwch esgidiau addas. |
Gwybodaeth am Ddiogelwch: | Cadwch lygad am y grisiau. |
Cwblhawyd yr argae sy’n dal Cronfa Ddŵr Lliw Isaf ym 1867. Fodd bynnag, nid oedd yn gwbl ddwrglos pan gafodd ei chwblhau, sefyllfa a gywirwyd ym 1979 pan gafodd ei hailadeiladu – 112 o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei hadeiladu’n gyntaf.
Roedd y gronfa’n cyflenwi dŵr i Abertawe’n wreiddiol, ond heddiw, ar ôl iddo gael ei drin yng Ngwaith Dŵr Felindre, caiff y dŵr ei bwmpio ar draws pob ran o dde Cymru.
Cloddiwyd am lo yn yr ardal slawer dydd ac mae’r llwybr yn mynd heibio un o’r adeiladau yng Nglofa Felindre, sydd heb ei ddefnyddio ers dros gant o flynyddoedd. Daw’r wybodaeth uchod o’r arweiniad: Cerdded am Iechyd, a gynhyrchwyd gan Ddinas a Sir Abertawe.
Os yw’r daith gerdded hon yn apelio atoch, beth am lawrlwytho’r arweiniad llwybrau cerdded bychan gwych hwn. Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Dinas a Sir Abertawe sydd wedi’i lunio, a bydd yn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
i https://lliwreservoirs.com
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: