Tafarnau a Bariau

Does dim byd gwell na mwynhau diod braf mewn tafarn neu far lleol ym Mae Abertawe, ni waeth a ydych yn mwynhau'r heulwen mewn gardd gwrw neu'n cynhesu ger lle tân yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ffodus, mae gan Fae Abertawe'r cyfan.  

O dafarndai bywiog canol y ddinas i fariau deniadol gyda golygfeydd syfrdanol o'r arfordir, mae'n siŵr y gallwch ddod o hyd i'r lle perffaith i ymlacio a mwynhau. Mae llawer o'r lleoliadau hyn yn croesawu cŵn, felly mae croeso i'ch anifail anwes ymuno yn yr hwyl hefyd.  

Mae Abertawe'n gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac mae'r tafarndai a'r bariau lleol yn adlewyrchu hyn. Na waeth a ydych yn fyfyriwr sy'n chwilio am gynigion ar ddiodydd sy'n addas i'ch cyllideb neu am amgylchedd cymdeithasol i gwrdd â phobl newydd, mae gan fywyd nos Bae Abertawe ddigon i'w gynnig.  Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o leoedd sy'n addas i fyfyrwyr gyda nosweithiau â thema, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau sy'n cadw pethau'n ffres ac yn gyffrous.  

Os ydych yn chwilio am brofiad mewn tafarn draddodiadol gyda dewis gwych o gyrfau crefft, bar sy'n gweini coctels creadigol neu le bywiog i fyfyrwyr, gall Bae Abertawe gynnig rhywbeth at ddant pawb. Dewch i ddarganfod y cynhesrwydd, y swyn a'r lletygarwch sy'n gwneud ein tafarndai a'n bariau'n arbennig.  

Dan sylw yr wythnos hon

  • Cradock Street

Albert Hall

Adeiladwyd Albert Hall yn wreiddiol fel theatr gerdd yn y 1800au, ac mae bellach yn gartref i…

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.  

Bywyd Nos

Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n dawnsio drwy'r nos.  

Gan eich bod chi yma...

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…