Caffis a Siopau Coffi
Ydych chi'n chwilio am y lle perffaith i gael te prynhawn neu am baned cysurus wrth i chi sgwrsio â'ch ffrindiau? Mae gan Fae Abertawe amrywiaeth wych o gaffis a siopau coffi at ddant pawb. Ni waeth a ydych yn chwilio am gornel dawel i fwynhau darn o deisen neu am leoliad bywiog i fwynhau eich hoff ddiod, gallwch ddod o hyd i ddigon o opsiynau deniadol.
Ydych chi'n chwilio am rywbeth gwahanol? Beth am roi cynnig ar un o'n caffis gemau bwrdd unigryw? Mae'r lleoliadau hyn yn cynnig y cymysgedd delfrydol o ddanteithion a difyrrwch, lle gallwch fwynhau latte a chwarae gêm o'ch dewis. Mae'n berffaith ar gyfer diwrnodau allan fel grŵp neu i ddianc am brynhawn.
O gaffis ger y môr gyda golygfeydd godidog i drysorau cudd yng nghanol y ddinas, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb. Ni waeth a ydych yn dwlu ar goffi neu de, neu'n chwilio am rywbeth melys, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i'r lle perffaith yma.
Dan sylw yr wythnos hon
- Clyne Gardens
The Touring Tea Room
Hen garafán sy'n gwerthu te, teisen a phethau hyfryd eraill yw The Touring Tea Room, a…
- 68 Southgate Road
Three Cliffs Coffee Shop
Agorwyd y siop goffi ym 1996 gyda phedwar bwrdd yn unig, tegell bach gwyn, un rysáit ar gyfer…
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.
Gan eich bod chi yma...
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!