Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.
Ni waeth a ydych yng nghanol y ddinas, ar lan y môr neu ymhellach i ffwrdd, gallwch ddod o hyd i'r union beth rydych chi'n chwilio amdano - o dafarndai i gaffis, ystafelloedd te i bistros ac o fwytai i fariau. Mae gennym yr hufen iâ gorau sydd ar gael hefyd, diolch i Verdi's a Joe's!
Diolch i'n morlin a'n cefn gwlad prydferth, gallwch fod yn siŵr y bydd cogyddion yn defnyddio'r cynhwysion lleol mwyaf ffres.
Ydych chi'n gobeithio prynu cynnyrch lleol gwych i chi'ch hun? Cofiwch gymryd cip ar Farchnad Abertawe, sef marchnad dan do fwyaf Cymru ac enillydd gwobr Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain 2024.
Peidiwch â cholli'r rhain
- Cradock Street
Albert Hall
Adeiladwyd Albert Hall yn wreiddiol fel theatr gerdd yn y 1800au, ac mae bellach yn gartref i…
- Old Lifeboat House
On The Rocks
Bwyty a bar arfordirol bywiog yw On the Rocks. Roedd y lleoliad uwchben y creigiau a'r môr…
- Ivy Cottage
The View Rhossili
Mae 'The View' yn sefyll ar ben clogwyni Rhosili, gan edrych dros Fynydd Rhosili i'r…
- 98 Sterry Road
Nomad Bar & Kitchen
Mae Nomad Bar & Kitchen yn arbenigo mewn defnyddio cynnyrch o'r radd flaenaf, nad ydynt ar gael ar y stryd fawr, o gynhyrchwyr annibynnol ar draws Ewrop nad ydynt yn cynhyrchu llawer. Beth rydym yn ei wneud... Wedi'i ysbrydoli gan yr amrywiaeth eang o gynhwysion a phrydau a ddarganfuwyd…
Beth hoffech chi ei gael?
Bwytai
Amser bwyta? P'un a ydych yn chwilio am rywle i gael byrbryd cyflym neu i fwynhau pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau, mae rhywbeth i bawb ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.
Tafarnau a Bariau
Does dim byd gwell na mwynhau diod braf mewn tafarn neu far lleol ym Mae Abertawe, ni waeth a ydych yn mwynhau'r heulwen mewn gardd gwrw neu'n cynhesu ger lle tân yn ystod misoedd y…
Caffis a Siopau Coffi
Ydych chi'n chwilio am y lle perffaith i gael te prynhawn neu am baned cysurus wrth i chi sgwrsio â'ch ffrindiau?
Dewisiadau Figan a Llysieuol
Yn Abertawe, mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys feganiaid neu lysieuwyr.
Cerddoriaeth Fyw
O dafarnau clyd i fariau prysur, mae bandiau, cantorion a pherfformwyr lleol talentog yn cyfoethogi bywyd nos Abertawe. P'un a ydych yn hoff o roc, jazz, cerddoriaeth annibynnol neu acwstig, dewch…
Bwytai a Thafarnau Addas i Gŵn
Yn ffodus, mae gan Abertawe ddetholiad o fariau, tafarnau a chaffis sy'n addas i gŵn, felly gall eich ci adfer ei egni hefyd.