Ydych chi'n trefnu parti pen-blwydd, parti plu, neu'n awyddus i ddianc am ychydig gyda'ch hoff ffrindiau? Does dim angen i chi edrych ymhellach - mae Bae Abertawe'n galw!
Gyda'i draethau trawiadol, ei fywyd nos bywiog, prydau blasus, a chotels (neu ‘moctels’) o safon, mae'r ardal arfordirol hyfryd hon yn berffaith ar gyfer seibiannau bythgofiadwy i ferched.
Awgrym da: Archebwch eich llety'n gynnar er mwyn sicrhau'r lleoedd gorau! P'un a ydych chi'n breuddwydio am westy dethol ffasiynol, bwthyn clyd neu wersylla moethus o dan y sêr, mae gan Fae Abertawe opsiynau gwych i'ch criw.
Tra byddwch yma, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archwilio byd bwyd bywiog Bae Abertawe, calendr digwyddiadau sy'n llawn dop a gweithgareddau grŵp y mae'n rhaid rhoi cynnig arnyn nhw i sicrhau taith wych i chi fel criw o ferched!
1. Brecinio a diodydd pefriog
Dechreuwch eich penwythnos mewn steil gyda brecinio hamddenol ym mhentref hyfryd y Mwmbwls. Mwynhewch deisennau crwst ffres, afocado wedi'i stwnsio ar dost, a gwydraid oer o ddiod befriog yn un o'r bariauglan môr steilus. Wedyn, gallwch grwydro'n hamddenol ar hyd glan y môr, pori’r bwtigau a'r orielau (mae un hyd yn oed wedi'i neilltuo i lwyau caru Cymreig!), a thynnu ambell hunlun grŵp ger adeilad hanesyddol Castell Ystumllwynarth. Gallwch orffen eich dydd gyda sgŵp (neu ddau!) o hufen iâ blasus o un o'r parlyrau hufen iâ lleol - y trît glan môr perffaith!

2. Dedwyddwch diwrnod ar y traeth
Nid yw'r un seibiant byr i ferched yn gyflawn heb ddiwrnod ar y traeth! Ewch i Fae Rhosili i gael tipyn o hud arfordirol. P'un a ydych chi'n edmygu'r golygfeydd o Ben Pyrod, yn trochi'ch traed yn y tonnau sy'n glir fel y grisial, neu'n cerdded ar hyd y tywod euraidd, dyma'r lle perffaith i ymlacio gyda'ch ffrindiau gorau. Am ginio hamddenol, mwynhewch frechdanau ffres a chacennau cartref mewn caffi lleol, neu anelwch am dafarn gyfagos i fwyta pysgodyn y dydd. Pan fydd hi'n amser diod, ewch i ardd jin cwmni Jin Gŵyr am sesiwn flasu wrth fwynhau golygfeydd godidog Porth Einon.

3. Byrbrydau a siopa
Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'r un peth heb archwilio marchnad enwog Abertawe, y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Gyda thros 100 o stondinau, gallwch ddod o hyd i bopeth o gynnyrch ffres, lleol i nwyddau unigryw o waith llaw. Cymerwch eich amser i grwydro, sgwrsio â stondinwyr cyfeillgar a darganfod cynhyrchion unigryw na fyddwch yn dod o hyd iddyn nhw yn unman arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu danteithion blasus o'r stondinau bwyd niferus sy'n cynnig popeth o gocos a bara lawr (gwymon!) a phice ar y maen traddodiadol, i fwyd stryd blasus o bedwar ban byd.

4. Noson mas yn y dref
Pan fydd yr haul yn machlud, mae Bae Abertawe'n dod yn fyw! Gallwch weld band byw mewn lleoliad cerddoriaeth lleol, mwynhau sioe gomedi a fydd yn gwneud i chi chwerthin nes ein bod yn wan, neu wylio perfformiad penigamp mewn theatr gyfagos. Os ydych am ddawnsio, ewch i un o'r clybiau bywiog i ddawnsio tan oriau mân y bore. Am awyrgylch mwy hamddenol, ymlaciwch gydag alawon acwstig mewn bar ffasiynol wrth yfed coctels (neu 'moctels') gan fwynhau'r awyrgylch.

5. Swingio, syrffio, sblasio!
Yn ystod eich seibiant i ferched, beth am roi cynnig ar rai gweithgareddau antur arfordirol newydd a chyffrous? Dechreuwch gyda rownd o golff yn Pennard, y 'maes golff yn yr awyr', gyda'i olygfeydd arfordirol trawiadol. Yna ewch i'r môr am wers syrffio neu archwiliwch arfordir mawreddog Gŵyr mewn caiac. Os yw'ch grŵp yn awyddus i brofi adrenalin, mae'n rhaid rhoi cynnig ar arfordiro - cyfle i sgrafangu, neidio a nofio'ch ffordd ar hyd y clogwyni garw am brofiad bythgofiadwy!

6. Marchogaeth
Dewch i fwynhau Bae Abertawe o safbwynt newydd sbon – ar gefn ceffyl! Ewch gyda'ch ffrindiau am reid hyfryd ar gefn ceffyl drwy erwau o goetir ffrwythlon a phorfeydd agored, gan werthfawrogi golygfeydd trawiadol o'r bae a thu hwnt ar yr un pryd. Gallwch deimlo awel y môr ar eich wyneb, mwynhau'r golygfeydd godidog, a thynnu lluniau i gofnodi'r eiliadau cofiadwy ar hyd y ffordd!

7. Taith ar gwch
Ydych chi'n barod i archwilio Bae Abertawe o'r môr? Ewch ar daith mewn cwch a fydd yn mynd â chi heibio i glogwyni dramatig, traethau cudd ac ogofâu diarffordd penrhyn Gŵyr. Cadwch lygad am ddolffiniaid, llamhidyddion, morloi a bywyd gwyllt arall ar hyd y ffordd! Fel arall gallwch fwynhau mordaith hamddenol ar yr afon o Farina Abertawe i fyny afon Tawe - ffordd hamddenol o fwynhau'r amgylchoedd hyfryd gyda'ch ffrindiau.

8. Bod yn gystadleuol!
Yn awyddus i gael cystadleuaeth gyfeillgar? Paratowch eich criw ar gyfer sesiwn taflu bwyeill i weld pwy sy'n gallu anelu orau! Yna rhowch gynnig ar gwrs rhwystrau tebyg i Ninja Warrior, lle byddwch yn rasio drwy rwystrau anodd, trawstiau cydbwysedd, a dringfeydd beiddgar. Mae'n gymysgedd gwych o hwyl, gwaith tîm, a chystadleuaeth - pwy wyddai y gallai penwythnos i ferched fod mor hwyliog â hyn!

9. Crefft a chreadigrwydd!
Mae Bae Abertawe’n llawn creadigrwydd, sy'n golygu ei fod yn lle gwych ar gyfer sesiwn grefftau gyda'ch ffrindiau. P'un a ydych chi'n mowldio crochenwaith, yn gwneud sebon o waith llaw, neu'n paentio ar gynfas, bydd y gweithgareddau hwyliog, ymarferol hyn yn deffro dawn greadigol pawb. Mae'n ffordd wych o feithrin perthynas agos â'ch gilydd a chreu cofroddion hynod i gofio'ch penwythnos!

10. Sawna ger y lan
Ar ôl yr holl hwyl, beth am faldodi'ch hunain drwy ymlacio mewn sawna wedi'i ysbrydoli gan y rhai Nordig? Mae'r sawna ffwrn tân coed hwn sy'n swatio ar lan y môr ym Mae Oxwich, yn lle delfrydol i ymlacio, ynghyd â golygfeydd syfrdanol o'r môr a sesiwn therapi gwres adfywiol. I roi rhywfaint o wmff ychwanegol i chi gallwch gamu o'r sawna poeth allan i awel oer y môr neu blymio i mewn i'r môr am brofiad hynod iachusol!

Gallwch orffen eich penwythnos mewn steil gyda gwledd ffarwel yn un o fannau bwyta poblogaidd yr ardal. Gyda seigiau blasus, cwmni anhygoel, ac un llwncdestun olaf i seibiant byr bythgofiadwy, dyma'r ffordd orau o orffen eich antur i ferched ar nodyn uchel! Tan y tro nesaf - iechyd da i gyfeillgarwch, chwerthiniadau calonnog, a'r holl atgofion a wnaed!
Hoffem weld beth rydych chi'n ei wneud gyda'ch criw chi o ferched! Tagiwch ni yn eich lluniau: @croesobaeabertawe #LleHapus #TaithIFerched
