A family roasting marshmallows on an outdoor fire.

Wrth i dymor yr ŵyl agosáu, mae Bae Abertawe'n trawsnewid yn lle hudol, hyfryd, yn llawn goleuadau disglair, digwyddiadau hudolus, a phrofiadau calonogol.

P'un a ydych yn bwriadu dianc am benwythnos neu wyliau hirach, dyma'ch arweiniad i'r pethau gorau i'w gwneud, eu gweld, eu bwyta a'u mwynhau ym Mae Abertawe'r Nadolig hwn.

Digwyddiadau hudolus a hwyl Nadoligaidd

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau: 21 Tachwedd i 4 Ionawr
Daw Parc yr Amgueddfa'n lle chwarae Nadoligaidd  gyda llyn sglefrio iâ dan orchudd, olwyn enfawr, reidiau ffair bleser a'r bar Alpaidd clyd. Dyma'r lle perffaith i deuluoedd, parau a grwpiau sydd am brofi ysbryd yr ŵyl.

Gorymdaith y Nadolig Abertawe: 23 Tachwedd
Paratowch at amser hudol pan fydd canol y ddinas yn dod yn fyw gyda dawnswyr, cerbydau sioe disglair, archarwyr ac ymddangosiad arbennig gan Siôn Corn i gynnau goleuadau'r Nadolig Digwyddiad cyffrous am ddim sy'n addas i'r teulu na ddylid ei cholli.

Llwybr Cerfluniau Tân ac Iâ: 6 i 7 Rhagfyr
Crwydrwch drwy ganol dinas Abertawe a darganfyddwch lwybr disglair llawn cerfluniau iâ wedi'u cerfio â llaw, sy'n cael eu creu’n fyw bob dydd. Mwynhewch gerfio rhyngweithiol, perfformwyr tân, cerddoriaeth fyw, glôb eira enfawr ac adloniant stryd Nadoligaidd.
 

Sioeau Nadoligaidd ac adloniant tymhorol

Hoffech chi ychwanegu ychydig o hud ychwanegol at eich cynlluniau Nadolig? O bantomeimiau a chyngherddau i berfformiadau diwylliannol a sioeau i'r teulu, mae Bae Abertawe'n llawn adloniant arbennig drwy gydol tymor yr ŵyl.

Am ddiwrnod allan cofiadwy, ewch i Bier y Mwmbwls. Gallwch fwynhau Brecwast gyda Siôn Corn, archwilio ei siop deganau hyfryd ac ymuno â’r Elf Detective Agency ar ei dasg lawen. Cofiwch ddod â’ch ci – mae hwyl yr ŵyl yn aros amdanynt yn y Groto i Gŵn.

Couple at a Christmas Market

Siopa a Marchnadoedd Nadolig

Marchnad Nadolig Abertawe: 29 Tachwedd i 22 Rhagfyr
Bydd y farchnad Nadolig hon gyda'i chabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yng nghanol dinas Abertawe, yn gwerthu anrhegion unigryw, crefftau a bwyd stryd blasus. Peidiwch â cholli'r bar Bafaraidd a’r perfformiadau byw yng Nghaban y Carolwr.

Ffair Nadolig Fictoraidd: 20 i 23 Tachwedd
Am bedwar diwrnod, cynhelir marchnad Fictoraidd ei naws yn rhannau o ganol y ddinas ar Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street  gyda masnachwyr mewn gwisgoedd Fictoraidd, anrhegion artisan, gwin y gaeaf ac adloniant byw. Gwisgwch ddillad cynnes a mwynhewch ysbryd yr ŵyl!
 

‘Uchelwydd a Marchnadoedd’ Marchnad Abertawe: 13 i 14 Rhagfyr
Dathlwch y tymor ym marchnad dan do fwyaf Cymru gyda phenwythnos llawn hwyl yr ŵyl!! Mwynhewch sioeau hud, cyfleoedd tynnu lluniau a cherddoriaeth fyw yng Ngardd y Farchnad a Chaban y Carolwr. Gyda thriawd canu retro, cymeriadau sy'n crwydro ac awyrgylch hudol, dyma'r ffordd berffaith o fwynhau hwyl yr ŵyl.
 

Marchnadoedd Stryd Lleol

Archwiliwch y marchnadoedd stryd Nadoligaidd lleol. Dyma’r lleoedd i ddod o hyd i anrhegion o waith llaw, cynnyrch lleol a danteithion yr ŵyl.

Syniadau am anrhegion Nadolig ar-lein
Os yw'n well gennych osgoi'r torfeydd, beth am wneud eich siopa Nadolig o gysur eich cartref? Cymerwch gip ar eich syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig ar-lein - y lle perffaith i gael popeth drwy glicio botwm.

Young couple enjoying a drink by the fire at Gin and Juice

Ble i fwyta'r Nadolig hwn

O gaffis gwledig clyd i fwytai arfordirol gyda golygfeydd o'r môr, mae Bae Abertawe'n llawn llefydd o safon i fwyta, yfed a bod yn llawen dros dymor yr ŵyl. P'un a ydych am gael cinio Nadolig sylweddol gyda'r holl drimins, tamaid cyflym i'w fwyta gyda siocled poeth i'ch cynhesu rhwng pob sbri siopa, neu bryd o fwyd i ddathlu gydag anwyliaid, mae digon ar gael i'ch temtio.


 

Morgans Hotel lit up in festive lights

Ble i aros y Nadolig hwn

P'un a ydych yn breuddwydio am olygfeydd arfordirol, cyfaredd cefn gwlad, neu arhosiad yng nghanol y ddinas yn agos at holl hwyl yr ŵyl, Bae Abertawe yw'r lle perffaith i ymlacio. O westai bwtîc i fythynnod clyd, cewch groeso cynnes ble bynnag y byddwch yn dewis aros.

Gwnewch y Nadolig hwn yn un i'w gofio!

O sglefrio iâ o dan y sêr, yfed gwin y gaeaf mewn marchnad Fictoraidd neu fwynhau gwledd Nadoligaidd gydag anwyliaid, mae Bae Abertawe'n cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer dihangfa Nadolig hudolus.

Hoffem weld eich eiliadau Nadoligaidd!
Tagiwch ni yn eich lluniau: @croesobaeabertawe  #LleHapus #HudYNadolig #HudALledrith

Waterfront Winterland Selfie