Nid yw nawddsant cariadon Cymru yn aros am fis Chwefror...
… mae hi’n barod i ailgynnau rhamant pan fydd ei hangen arnom, yng nghanol mis oer Ionawr. Gyda’r Nadolig wedi hen fynd a’r Gwanwyn eto i ddod – mae Santes Dwynwen yn ein hatgoffa bod gwir gariad gyda ni o hyd i’n cadw gynnes.
Ond pwy oedd Santes Dwynwen? Roedd hi’n dywysoges brydferth o’r bumed ganrif a oedd yn hanu o Fannau Brycheiniog ac ar ôl i’w thad wrthod gadael iddi briodi ei gwir gariad, Maelon, gweddïodd Dwynwen y byddai’n ei hanghofio. Rhoddodd angel ddiod i Dwynwen er mwyn iddi anghofio amdano a throi Maelon yn iâ! Cafodd Dwynwen dri dymuniad. Gyda’r dymuniad cyntaf dewisodd ddadlaith ei gwir gariad, gyda’r ail, dymunodd y byddai gwir gariadon yn gwireddu eu breuddwydion a gyda’i thrydydd, dymunodd na fyddai hi ei hun fyth yn priodi.
Gwireddwyd ei dymuniadau ac i ddiolch sefydlodd Dwynwen leiandy oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Felly os ydych yn bwriadu gofyn y cwestiwn hollbwysig hwnnw ar 25 Ionawr yna mae gennym 5 lle perffaith i chi gael dweud ‘dwi’n dy garu di’ dair wythnos cyn Dydd Gŵyl Sain Folant!
1. Pen Pyrod, Bae Rhosili
Mae Bae Rhosili’n cynnig un o’r machludau haul mwyaf poblogaidd yn y byd! Cefndir rhamantus. Golygfa drawiadol. Modrwy. Cer amdani!
2. Maen Ceti (Carreg Arthur)
Mae’r bedd neolithig hwn, sy’n dyddio’n ôl i 2,500 C.C ac yn rhan o chwedlau, yn edrych dros olygfeydd panoramig o benrhyn Gŵyr. Mae’n lleoliad perffaith i gynnig priodi’ch cariad!
3. Y Mwmbwls
Mae hufen iâ, llwyau caru a mynd am dro hir ar hyd y traeth yn siŵr o fod yn rhamantus iawn. Mae nifer o leoedd yn y Mwmbwls sy’n addas i gynnig priodi rhywun – a phromenâd hir lle gallwch chi ddewis y lle perffaith!
4. Coed Cwm Penllergaer
Bydd yn anodd dod o hyd i leoliad mwy diarffordd am eich digwyddiad arbennig, gyda golygfa ddramatig o’r rhaeadr, llwybrau cerdded drwy’r goedwig a sŵn yr adar yn canu ym Mhenllergaer.
5. Gerddi Clun
Ewch i Dŵr Admiral yng Ngerddi Clun a gofynnwch i’ch cariad eich priodi yn y lleoliad mwyaf rhamantus posib!
Pob lwc! Ac os mai ‘gwnaf’ yw’r ateb fe glywn ni fod Bae Abertawe’n lle braf am briodas…
Mae Dydd Gŵyl Sain Folant rownd y gornel, cyfle arall i faldodi’r person arbennig hwnnw, felly beth am benwythnos rhamantus i ffwrdd neu drît arbennig? Rydym wedi rhoi rhai syniadau ynghyd ar eich cyfer chi yma.