Sul y Mamau yw'r cyfle perffaith i ddathlu'r menywod anhygoel yn ein bywydau – p’un ai eich mam, eich llysfam, eich mam-gu neu gymeriad mamol annwyl arall. Dyma gyfle i ddangos eich gwerthfawrogiad a gwneud iddynt deimlo'n wirioneddol arbennig. O brofiadau hamddenol i giniawa swmpus ac anturiaethau teulu awyr agored, mae gan Fae Abertawe lawer i'w gynnig. I'ch helpu i gynllunio diwrnod bythgofiadwy, dyma bum ffordd wych o wneud Sul y Mamau'n gofiadwy eleni!
1. Maldodi ei Blasbwyntiau
Mae pryd blasus bob amser yn boblogaidd ar Sul y Mamau! P'un a yw hi’n hoff o de prynhawn pleserus mewn gwesty modern o safon, dalfa'r dydd mewn bwyty ffasiynol ar lan y môr, neu ginio dydd Sul swmpus mewn tafarn atyniadol yng nghefn gwlad, mae Bae Abertawe'n cynnig dewis anhygoel o fannau bwyta. Cymerwch gip ar yr opsiynau bwyta bendigedig sydd ar gael a chynlluniwch brofiad ciniawa a fydd yn gwneud ei diwrnod yn fwy arbennig byth.

2. Archwilio'r Awyr Agored
Dathlwch Sul y Mamau ym Mae Abertawe drwy fwynhau'r awyr agored gyda'ch gilydd. Os yw eich mam yn dwlu ar fyd natur, ewch â hi am dro atyniadol drwy Goed Cwm Penllergare – sy'n cynnig rhaeadrau, coetiroedd a'r lle perffaith i gael picnic! I weld golygfeydd arfordirol anhygoel, ewch i Lwybr Arfordir Gŵyr. Ewch ar grwydr i anadlu awyr iach y môr a mwynhau harddwch ein traethau arobryn. Os ydych yn mynd am dro llonydd mewn coetir neu'n cael antur ger y môr, mae treulio amser yn yr awyr agored gyda rhywun arbennig yn ffordd berffaith o gysylltu â'ch gilydd a mwynhau'r diwrnod.

3. Daranfod Diwylliant Abertawe
Ewch allan i fwynhau diwrnod diwylliannol cofiadwy! Dechreuwch drwy ymweld ag un o orielau celf y ddinas, lle gallwch archwilio arddangosfeydd ysgogol sy'n cynnwys gwaith clasurol a chyfoes. I'r rhai hynny sy'n dwlu ar hanes, mae Abertawe'n gartref i amgueddfeydd hynaf a diweddaraf Cymru. Ceir mynediad am ddim i’r ddwy amgueddfa, sy’n cynnig dealltwriaeth ddifyr o dreftadaeth gyfoethog y ddinas. Am noson o adloniant, archebwch docynnau am sioe fyw mewn theatr, neu cymerwch gip ar un o'r lleoliadau bywiog yn y ddinas sy'n cynnig cerddoriaeth fyw, lle gallwch weld artistiaid lleol a theithiol talentog. Cofiwch archwilio ein tudalen “Digwyddiadau” i weld y digwyddiadau diweddaraf a chynllunio'r profiad diwylliannol perffaith.

4. Defnyddio eich Doniau Creadigol!
Ar Sul y Mamau, beth am gyfnewid blodau a siocledi am brofiad creadigol ymarferol? Rhowch gynnig ar ddosbarth crochenwaith lle gallwch lunio a phaentio rhywbeth unigryw i'w gadw, neu ymunwch â sesiwn baentio dan arweiniad i greu campwaith lliwgar. Gallech hefyd fod yn grefftus drwy addurno teils neu ddylunio gemwaith unigryw. Yn ogystal â chael hwyl, bob tro y bydd eich mam yn gweld eich creadigaeth a wnaed â llaw, bydd yn cofio'r amser arbennig y gwnaethoch dreulio gyda'ch gilydd – ni waeth am ansawdd amheus y fâs honno!

5. Hwyl ac Antur i'r Teulu!
Ar gyfer menywod sy'n dwlu ar antur, rhowch gyfle i'ch mam gael blas ar brofiad awyr agored cyffrous fel padlfyrddio, caiacio neu hyd yn oed gwers syrffio – sy'n berffaith ar gyfer ychwanegu tro gwefreiddiol at eich diwrnod allan gyda'r teulu! Ar ôl amser llawn cyffro ar y dŵr, ewch dan do i gael rhagor o hwyl. Heriwch eich man i roi cynnig ar rownd o golff gwallgof, profi ei gallu i ymateb yn gyflym mewn gêm laser neu archwilio sŵ trofannol lle gall fod yng nghwmni creaduriaid anhygoel a hyd yn oed bwydo'r crocodeilod! Dyma'r ffordd orau o chwerthin, rhannu hwyl a sbri a chreu atgofion parhaol gyda'ch gilydd!

Does dim ots sut rydych yn dewis dathlu, mae Bae Abertawe'n llawn ffyrdd o wneud Sul y Mamau'n fwy arbennig nag erioed. Gan fod cymaint i'w archwilio a'i fwynhau, beth am ymestyn y dathliad ac aros dros y penwythnos!
P'un a ydych yn aros ger yr arfordir, yng nghanol y ddinas, neu yng nghefn gwlad, mae digon o fannau gwych i aros ynddynt. Felly, ewch ati i gynllunio rhywbeth bythgofiadwy i sicrhau y bydd y person arbennig hwnnw'n mwynhau penwythnos o safon!
