Mae’r amser wedi cyrraedd!
Y penwythnos yma bydd Pride Abertawe’n dod ag awyrgylch carnifal a chaneuon poblogaidd i’r ddinas.
Er bod Pride wedi symud i leoliad newydd, sef Neuadd y Ddinas oherwydd nad yw’r tir ym Mharc yr Amgueddfa wedi adfer o wythnosau o law trwm eto, mae digwyddiad eleni’n addo bod yn un i’w gofio.
Mae’r ŵyl am ddim, sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Abertawe, yn dechrau am 12 ganol dydd ac yn rhedeg tan 7pm yn y maes parcio ac ar y tir o flaen Neuadd y Ddinas a Neuadd Brangwyn gerllaw (mae’r ardal gymunedol yn y Brangwyn yn cau am 5pm). Bydd yr ŵyl Pride fach yn dal i gael ei chynnal ddydd Sul 30 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Cyn hyn, bydd yr orymdaith flynyddol yn dechrau o Wind Street am 11am ac yna’n mynd drwy ganol y ddinas i Neuadd y Ddinas ar hyd Caer Street, Sgwâr y Santes Fair, Stryd Rhydychen, Dillwyn Street, St Helen’s Road a St Helen’s Crescent.
Bydd rhaglen dreigl o gau ffordd ar waith a chynghorir modurwyr i gymryd llwybrau amgen os yn bosib yn hwyr y bore
Er bod lleoliad Pride Abertawe 2023 wedi newid, bydd y digwyddiad difyr yn dal i fod yr un peth, gyda cherddoriaeth fyw, bwyd, diod, stondinau masnach a pharthau cymunedol.
Ymhlith yr actau gwych a fydd yn perfformio ar y llwyfan eleni mae Alex Taylor, Jason Curvis, Russell Jones Jr, Starstruck: The Ultimate Years and Years Tribute Show, Wyburn a Wayne, Amrick Channa a Miss Ivory Fierce.
Mae cyflwynwyr y prif lwyfan yn cynnwys CC Swan, Dr Bev, Diana D, Gypsy Divine, Kara Von-Site, Lambrini Rampage, Lucy Lou a Ruby Slippers.
Nid yw’r hwyl yn dod i ben am 7pm – bydd y parti swyddogol sy’n dilyn Pride Abertawe yn Hogarths, gyda pherfformiad gan westai arbennig iawn na ddylid ei golli.
Cofiwch hefyd fod y siop Pride yn y Cwadrant – sydd ar agor tan y cynhelir y digwyddiad – yn gwerthu’ch holl hanfodion Pride.
Mae rhestr lawn o actau, gweithgareddau a gwybodaeth arall ar gael yn www.swanseapride.co.uk
Abertawe – mae’n bryd i chi fod yn falch!