Darganfod Gwledd y Gaeaf ar y Glannau y Nadolig hwn. Ar agor nawr tan 4 Ionawr.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn llawn atyniadau cyffrous i bobl o bob oedran - dyma'r cyrchfan gorau ar gyfer adloniant i'r teulu dros y Nadolig.
Dewch i arddangos eich sgiliau sglefrio ar ein llyn ia hudol dan do. Mae cymhorthion ar gael i blant, gan gynnwys cymhorthion arth wen newydd ar gyfer eleni. P'un a ydych yn hyderus ar yr iâ neu'n rhoi cynnig ar sglefrio am y tro cyntaf, archebwch eich tocynnau heddiw i gadw'ch lle. Mae tocynnau'n dechrau o £9 i blant.

Ewch ar yr Ice Jet os ydych chi'n chwilio am gyffro. Mae'r unig reid Ice Jet yn Ewrop yn cynnig profiad unigryw a chyffrous. Mae’n llawn hwyl gyflym ac yn gallu cyrraedd cyflymder o dros 50mya. Nid dyma ddiwedd y cyffro, gan fod yr Ice Jet yn brofiad clyweledol llawn. Mae gan y reid dros 5,000 o oleuadau, gan gynnwys goleuadau neon, laserau, llusernau, a goleuadau tiwb, yn ogystal â 10 pêl ddisgo - mae'r effeithiau gweledol yn syfrdanol.

Ni fyddai unrhyw ymweliad â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn gyflawn heb fynd ar Yr Olwyn Fawr lle gallwch edmygu golygfeydd o'r ddinas wrth ymlacio ar yr olwyn 33m, sydd hefyd yn cynnwys cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae'r Bar Alpaidd, sy'n dal hanfod caban gaeafol traddodiadol, yn gweini danteithion Nadoligaidd blasus. Gallwch dostio malws melys wrth y tân agored, yfed siocled poeth a mwynhau'r awyrgylch. Mae'n lle gwych i ymlacio a mwynhau hwyl yr ŵyl.
Am amserau agor dros y Nadolig ac i archebu tocynnau sglefrio iâ ymlaen llaw, ewch i https://www.swanseawaterfrontwinterland.cymru/

Fe’i cyflwynir i chi gan Sayers Events ac A2H Live, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.