Rydym yn dathlu Mis Hanes Menywod ym mis Mawrth a Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, ar draws Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe.

Mae menywod wedi chwarae rôl allweddol yn stori Abertawe, ac maent yn parhau i wneud hynny, o’r Arglwyddes Alina de Mowbray yn yr oesoedd canol i Amy Dillwyn yn Oes Victoria. Fel rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein drwy gydol Mis Hanes Menywod, byddwn yn dathlu’r menywod eithriadol sy’n helpu i lywio gorffennol, presennol a dyfodol Abertawe.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ddydd Mawrth 8 Mawrth, byddwn yn ymuno â’r gymuned fyd eang wrth gymeradwyo cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Canolfan Dylan Thomas

Ar gyfer Mis Hanes Menywod, bydd Canolfan Dylan Thomas yn archwilio gwrthrychau unigryw o’n casgliad sy’n ymwneud ag awduron, artistiaid a ffotograffwyr gan gynnwys Edith Sitwell, Brenda Chamberlain, Rollie McKenna a Nora Summers.

Dylan Thomas Centre women exhibition

Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfres o flogiau a fydd yn taflu goleuni ar fywyd Florence Thomas. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Florrie Thomas Rhan 1

Florrie Thomas Rhan 2

Florrie Thomas Rhan 3

Glynn Vivian

Ymunwch â Glynn Vivian ym mis Mawrth wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 drwy edrych ar y gwaith anhygoel gan fenywod sy’n cael ei arddangos yn y gallery.

Colourful oval dish by Ann Churchill

O 8 Mawrth (Diwrnod Rhyngwladol y Merched), gallwch weld uchafbwyntiau eu sioe Hayward Gallery Touring bresennol, Not Without My Ghosts – The Artist as a Medium ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, wrth iddynt rannu detholiad o gelfweithiau gan fenywod sy’n rhan o’r arddangosfa.

Gwrandewch nawr ar Guradur Cynorthwyol Hayward Touring, Gilly Fox, wrth iddi eich tywys o gwmpas yr arddangosfa.

Hefyd yn yr oriel ym mis Mawrth mae dwy arddangosfa gan artistiaid benywaidd o Gymru, Fern Thomas a Zoe Preece.

White jars, art by Zoe Preece

Gwyliwch yr artistZoe Preece yn cael sgwrs â Dr Frances Woodley nos Fawrth 8 Mawrth am 6pm ar sianel YouTube y Glynn Vivian, wrth iddynt rannu eu meddyliau a’r hyn a ysbrydolodd y gwaith, In Reverence.

Bydd yr arddangosfeydd Spirit Mirror ac In Reverance yn parhau tan 20 Mawrth.

Methu cyrraedd yr Oriel? Ewch ar daith rithwir o’n harddangosfeydd ar-lein nawr.

 

Llyfrgelloedd Abertawe

Gallwch ddod o hyd i ddigonedd o lenyddiaeth am fenywod a chan fenywod yn Llyfrgelloedd Abertawe trwy’r gwasanaeth Clicio a Chasglu neu gallwch  lawrlwytho’r cyfan AM DDIM gan ddefnyddio ap BorrowBox.

IWD books

’ch ysbrydoli, byddant yn llunio rhestr o’r 10 llyfr y mae’n rhaid i chi eu darllen i nodi Mis Hanes Menywod.

Amgueddfa Abertawe

Yn 2018, cyflwynodd Amgueddfa Abertawe arddangosfa a oedd yn dathlu pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1918, a oedd yn rhoi’r hawl i fenywod dros 30 oed bleidleisio am y tro cyntaf. Yn ystod cyflwyniad ar-lein arbennig o gynnwys yr arddangosfa, bydd yr amgueddfa’n adrodd straeon menywod anhygoel Abertawe a oedd wedi ymgyrchu dros y bleidlais i ferched.

Old photos of woman in smart dress from the early 1900s.