Dymunwn Nadolig Llawen! Mae Abertawe'n llawn hwyl yr ŵyl a digwyddiadau newydd sbon ar gyfer y Nadolig
Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron, mae digwyddiadau trawiadol ar ddod na fyddwch am eu colli.
Ffair Nadolig Fictoraidd Abertawe
Camwch yn ôl mewn amser yn Ffair Nadolig Fictoraidd Abertawe! Am bedwar diwrnod o ddydd Iau 20 Tachwedd, bydd canol y ddinas yn cael ei drawsnewid yn farchnad Fictoraidd swynol a gynhelir gan siopwyr mewn gwisgoedd a pherfformwyr stryd, lle bydd cyfle i bori drwy anrhegion artisan a blasu danteithion y Nadolig, a bydd canwyr carolau a cherddorion byw yn gefndir i'r cyfan.
Uchafbwyntiau:
- Porwch gasgliad o anrhegion, crefftau a danteithion Nadoligaidd artisan
- Blaswch win y gaeaf, cnau castan rhost a bwyd stryd blasus
- Mwynhewch gerddoriaeth fyw, canwyr carolau a pherfformwyr stryd Fictoraidd
Oriau agor:
- Dydd Iau, 20 Tachwedd | 12pm – 8pm
- Dydd Gwener 21 Tachwedd - dydd Sul 23 Tachwedd, 10am - 8pm
Ble: Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street
Gwisgwch ddillad cynnes a mwynhewch ysbryd yr ŵyl yn nigwyddiad Nadolig newydd sbon eleni.
Gŵyl Tân ac Iâ
Peidiwch â cholli'r cyffro wrth i dân ac iâ feddiannu canol y ddinas fel rhan o ddigwyddiad newydd a chyffrous y gaeaf hwn. Dewch i gael eich swyno gan berfformiadau ar thema tân ac iâ, tynnwch luniau hudolus yn y glôb eira enfawr, neu byddwch yn greadigol drwy roi cynnig ar gerfio iâ rhyngweithiol.
Nid dyna'r cyfan, oherwydd bydd naw cerflun iâ unigryw i'w darganfod ar draws y ddinas wrth ymyl rhai tirnodau eiconig. Allwch chi ddod o hyd i bob un?
Pryd: Dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Rhagfyr
Oriau agor:
- Llwybr cerfluniau iâ | 10am – 5pm
- Glôb eira enfawr | 11am – 5pm
- Cerfio iâ rhyngweithiol | 11.30am – 3.30pm
- Sioeau Tân ac Iâ yn St David’s Place | 1.30pm, 3pm, 4.30pm
Ble: St David's Place, Sgwâr y Santes Fair a chanol y ddinas
Hefyd, gallwch fwynhau adloniant byw drwy gydol y dydd yng Nghaban y Carolwyr a noddir gan Costa Coffee, a chadwch lygad am gymeriadau arbennig a pherfformiadau tân o gwmpas Marchnad y Nadolig.
Uchelwydd a Marchnadoedd
Byddwch yn barod i siopa ar y cyd â rhaglen gyffrous o adloniant byw ar draws dau lwyfan bywiog, Caban y Carolwyr, a noddir gan Costa Coffee, a Gardd y Farchnad yng nghanol Marchnad Abertawe. Dewch i gael eich swyno gan yr harmonïau hudolus a'r rhythmau Nadoligaidd, neu beth am ddiddanu'ch rhai bach gyda sioe hud a danteithion melys?
Uchafbwyntiau:
- Bydd cerddoriaeth fyw gan ffefrynnau o'r 1950au fel The Bluebird Belles, caneuon gafaelgar Hot Gin Swing, synau bywiog Eine Kleine Oompah, a mwy!
- Gall y plant bach fwynhau hud a lledrith a miri mawr yng nghwmni Kelly a Debbie, a bydd paentio wynebau ac addurno cwcis yn siŵr o ddifyrru pawb!
- Dewch i gwrdd â llu o westeion arbennig disglair, gyda chymeriadau atyniadol o'r gorffennol ddydd Sadwrn a chreaduriaid coetirol hynod ddydd Sul.
Pryd: Dydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Rhagfyr
Ble: Marchnad Dan Do Abertawe a Marchnad Nadolig Abertawe
Galwch heibio'r marchnadoedd am benwythnos llawn adloniant bywiog ac atgofion arbennig gyda'r teulu.
Marchnad y Nadolig Abertawe
Mae hoff draddodiad siopa Abertawe hyd yn oed yn fwy Nadoligaidd eleni! Yn y cabanau clyd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street, gallwch ymweld â'r crefftwyr dawnus a'r masnachwyr traddodiadol, dewis yr addurn perffaith ar gyfer eich coeden neu ddod o hyd i'r anrheg berffaith ar gyfer rhywun arbennig. Yn ogystal ag wynebau cyfarwydd, bydd hefyd fasnachwyr newydd gwych yn y Babell Lawen ar 5 a 7 Rhagfyr a 12 a 14 Rhagfyr.
Dewch i gynhesu gyda gwin y gaeaf o'r Bar Alpaidd neu gallwch gael tamaid i'w fwyta gan un o'r masnachwyr bwyd stryd blasus wrth i chi fwynhau cerddoriaeth y perfformwyr yng Nghaban y Carolwyr, a noddir gan Costa Coffee.
Uchafbwyntiau:
- Masnachwyr, anrhegion, crefftau a danteithion artisan
- Masnachwyr newydd sbon yn y Babell Lawen (amserau cyfyngedig yn unig)
- Y Bar Alpaidd a bwyd stryd blasus
- Cerddoriaeth fyw a chanwyr carolau
- Cyfle i dynnu llun Nadoligaidd gyda'r teulu yng Nghaban y Carolwyr
Pryd: Dydd Sadwrn 29 Tachwedd – Dydd Llun 22 Rhagfyr
Ble: Stryd Rhydychen a Portland Street
Mae Costa Coffee yn falch o noddi Caban y Carolwyr
