Boreau goleuach a dyddiau hirach, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd!
P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth ar gyfer eich plant bach, eich plant yn eu harddegau, neu’r teulu cyfan, mae ein dinas gyffrous yn barod i ddarparu atgofion melys.
Ospreys vs Connacht
Ymunwch â’r Gweilch yn Stadiwm Swansea.com wrth iddynt groesawu Connacht o Iwerddon ar gyfer gêm gynghrair enfawr.
Maent yn dathlu 20 o flynyddoedd ers iddynt ennill y gynghrair am y tro cyntaf, a bydd rhai gwesteion arbennig iawn yn bresennol! Dewch â’r teulu cyfan am ddiwrnod mas gwych llawn rygbi, gyda thocynnau’n dechrau o £9 yn unig ar gyfer plant dan 18 oed.
Byddwch yn barod am Wobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure
Mae'r digwyddiad uchel ei fri hwn, sy'n dathlu ei 25ain flwyddyn, yn cydnabod y cyflawniadau chwaraeon anhygoel yn Abertawe yn 2024.
Ymunwch â ni ar 2 Ebrill yn Neuadd Brangwyn am noson fythgofiadwy gyda'r rhai hynny sydd ar y rhestr fer mewn 15 o gategorïau'n cynrychioli amrywiaeth o gampau.
Mae Croeso i bawb yn ras am oes Abertawe
Gwahoddir pobl i fwynhau'r gwanwyn trwy gofrestru ar gyfer Ras am Oes Abertawe Cancer Research UK!
Cynhelir digwyddiadau Ras am Oes ym Mharc Singleton ac ar Parc Amgueddfa yn Abertawe ac maent yn agored i bobl o bob oedran a gallu. Ar ddydd Sadwrn 17 Mai, bydd cyfle i gymryd rhan yn 'Pretty Muddy', sef cwrs rhwystrau 5km mwdlyd, ac mae opsiwn 'Pretty Muddy Kids' i blant rhwng 6 a 12 oed. Ar ddydd Sul 18 Mai, gall pobl ddewis rhwng rasys 5km a 10km.
Mae digwyddiadau poblogaidd yr elusen, sy'n codi arian am ymchwil sy'n achub bywydau, yn dychwelyd i'r ddinas. Gall unrhyw un sy'n cofrestru rhwng dydd Llun 17 Mawrth a dydd Sul 6 Ebrill gael 30% oddi ar y pris cofrestru fel rhan o gynnig arbennig gan ddefnyddio'r côd 25SPRING.
Mae'r arian a godir ar gyfer Ras am Oes yn galluogi gwyddonwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o atal, diagnosio a thrin canser, er mwyn creu byd lle gall pawb fyw bywydau hirach a gwell heb ofni canser.
Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ym mis Medi
Mae’r ras hon yn berffaith i redwyr o bob lefel gan fod y cwrs gwastad a chyflym yn cynnwys golygfeydd godidog a chefnogaeth ardderchog gan wylwyr brwdfrydig. Mae’n gyfle gwych i gyflawni amser personol gorau! Mae Runner’s World wedi cydnabod y digwyddiad fel un o’r rasys 10k gorau i gofrestru amdani yn 2024.
Mae ein rasys iau arobryn yn parhau i dyfu bob blwyddyn ac mae’r digwyddiad yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.
Dathlu Mis Hanes Menywod yn Abertawe
Mae ein Plac Porffor cyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus newydd a pharhaol i’r ymgyrchydd cymdeithasol ysbrydoledig, y nofelydd ac un o'r diwydianwyr benywaidd cyntaf ym Mhrydain, Amy Dillwyn, un o ddinasyddion mwyaf nodedig Abertawe.
Mae Placiau Porffor Cymru'n cydnabod menywod nodedig, yn dathlu eu cyflawniadau ac yn coffáu eu hetifeddiaeth mewn hanes lleol a chenedlaethol.