Mae mis Medi ar ddod!

Rydyn ni wedi mwynhau haf anhygoel arall o ddigwyddiadau ym Mae Abertawe. Gobeithio eich bod chi wedi llwyddo i ymweld ag un o'n traethau, ac wedi cael blasu hufen iâ neu ddau - ond mae'r tymhorau'n newid, ac mae'n bryd i ni ddychwelyd i drefn arferol. Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth sydd ar y gweill y mis hwn. Digwyddiadau

 

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe

Swansea International Jazz Festival 2025

Cynhelir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe ar benwythnos cyntaf mis Medi (4-7) mewn gwahanol leoliadau ledled y ddinas. Bydd perfformiadau gan fandiau fel Five Way Split, Spice Fusion, Band Mawr Triple H Horns gyda Mo Pleasure, Kedma Cacias a Wayne Hernadez, a band mawr Power of Gower.

Mae amser o hyd i brynu tocynnau ar gyfer y perfformiadau unigol, neu beth am fwynhau pob un o'r 11 sioe am £165* gyda'n cynnig arbennig? Yn ogystal â'r digwyddiadau â thocynnau, mae hefyd rhaglen grwydro am ddim dros y penwythnos. 
*ffi archebu 5%.

Diwrnod Agored Castell Ystumllwynarth 

Mae'r castell yn agor ei borthcwlis ac yn croesawu'r cyhoedd i mewn ar gyfer ei Ddiwrnod Agored am ddim, ddydd Sadwrn 13 Medi.

Bydd arddangosfa o fwyd canoloesol, gwehyddu a gwisgoedd y cyfnod, gemau, straeon, dreigiau (!), a gallwch hyd yn oed greu eich eicon canoloesol ein hun a dod ag unrhyw wrthrychau a ddarganfuwyd i'w hadnabod gan The Heritage Metal Detectors Club!

Oystermouth Castle

Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Cynhelir Ras 10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul, 14 Medi. Mae cofrestriadau bellach ar gau ond gallwch ddod i gefnogi'r rhedwyr ar y llwybr. Dewch i guro dwylo a chefnogi dros 4,000 o gyfranogwyr. Byddwch chi ddim am golli ras ddoniol y masgotiaid sy'n cael ei chynnal ar ôl i'r brif ras ddechrau! Mae Jo Joio yn gobeithio cyflawni amser gorau newydd...

10k mascots walking along the route.

Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain

Ydych chi wedi gweld yr arddangosfa ddiweddaraf yn Oriel Gelf Glynn Vivian eto? Mae'n cynnwys dros 100 o gelfweithiau - paentiadau, ffotograffau, tecstilau, perfformiadau, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd - gan oddeutu 70 o artistiaid o Gymru, Lloegr, India a Phacistan.

Mae pob un yn edrych ar eiconograffi cenhedloedd de Asia a Chymru. Peidiwch â cholli'r gwaith tapestri enfawr gan Adeela Sulema! Mae hefyd gelfweithiau gan JDW Turner, Bedwyr Williams, Frank Brangwyn a darnau sy'n amrywio o'r 1700au hyd heddiw. Bydd yr arddangosfa ar agor tan ddydd Sul 2 Tachwedd. 

A mannequin dresses in Welsh costume.

Digwyddiadau sydd ar ddod 

Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2025

Mae Gŵyl Wyddoniaeth fwyaf Cymru yn ôl!

Ydych chi’n chwilio am rywbeth arbennig i’w wneud dros hanner tymor yr Hydref? Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn dychwelyd am benwythnos llawn hwyl, darganfod a gwyddoniaeth ymarferol.

Yn Amgueddfa’r Glannau fe gewch chi sioeau a gweithgareddau cyffrous i bob oed. Ymunwch â’r cyflwynydd teledu Hamza Yassin yn fyw ar y llwyfan, wrth iddo rannu ffeithiau anhygoel am anifeiliaid ac ateb eich cwestiynau am y byd naturiol.

Mwynhewch hefyd y Sioe Swigod a Balŵns anhygoel, cwrdd ag Arwyr Gwyddoniaeth go iawn, a darganfod Gwyddoniaeth Roald Dahl. Yn ogystal â’n prif sioeau, bydd gweithgareddau galw heibio am ddim a safleoedd rhyngweithiol i blesio meddyliau chwilfrydig o bob maint.

Peidiwch â cholli’r dathliad gwyddoniaeth mwyaf yng Nghymru yr hanner tymor hwn! Rhowch y dyddiadau yn eich calendr a dewch i ymuno â ni am hwyl hynod ddiddorol na fyddwch yn ei anghofio!

Science Festival