Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd ac mae llawer o bethau ar y gweill ym Mae Abertawe y mis hwn.
Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau i’r teulu, hwyl yn yr awyr agored, uchafbwyntiau diwylliannol a diwrnodau allan sy’n fforddiadwy, parhewch i ddarllen!

People sitting around the amphitheatre in the rain,

Amplitude 16 – 18 Awst

Gŵyl ddiweddaraf Abertawe sy’n dathlu cerddoriaeth o bob math!

Ymunwch â ni yn Amffitheatr Abertawe (y tu allan i LC Abertawe) rhwng dydd Gwener 16 Awst a nos Sul 18 Awst ar gyfer Amplitude, sef tridiau o adloniant cerddorol AM DDIM! Bydd yr hwyl yn dechrau ar y dydd Gwener wrth i ni sgrinio School of Rock a Bohemian Rhapsody ac yna bydd llu o berfformwyr cerddorol ar y llwyfan ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul. Dewch draw am lawer o hwyl!

Two children standing in front of an old railway cart in the National Waterfront Museum.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ydych chi’n barod am wythnos gyffrous llawn gweithgareddau ac antur yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau?

Ymunwch â ni ddydd Mercher 7 Awst wrth i ni ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda diwrnod llawn hwyl, bydd sgiliau syrcas, celf a chrefft, paentio wynebau, cerddoriaeth fyw a llawer mwy. Bydd cyfle prin hefyd i weld locomotif stêm anhygoel Penydarren wrth i ni ei thanio a’i gyrru i lawr y trac. Mae’r cyfan yn AM DDIM i bawb fwynhau!

Yna ymunwch â ni ddydd Sul 11 Awst wrth ar gyfer ein digwyddiadau Diwrnod Môr-ladron! Gyda chrefftau creulon, rhyfeddodau rhaffau a pherfformiad gwych o “Captain Barnacle – Pirate Pantomeim!”* Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan. (*Tocynnau ar gyfer y pantomeim yn £3 y plenty. Gallwch archebu tocyn ar ein gwefan.)

 

A land train travelling along Swansea Bay.

Atyniadau Awyr Agored

Rhowch gynnig ar Drên Bach Bae Abertawe! Mwynhewch daith hamddenol ar hyd promenâd Abertawe, gan fynd a dod fel y mynnwch! Mae’r trên ar gael saith niwrnod yr wythnos, mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae hyd yn oed yn croesawu cŵn ufudd ar dennyn!

Ydych chi wedi gweld y pedalos ungyrn newydd yn Llyn Cychod Singleton eto? Dywedwch helô ac ewch ar daith ar Sparkles a Sprinkles.

Bydd teuluoedd cystadleuol yn hoffi rhoi cynnig ar golff gwallgof ym Mharc Singleton neu golff bach ar y cwrs sydd newydd ei baentio yng Ngerddi Southend, ac mae pawb yn dwlu ar sblasio yn Lido Blackpill yn yr heulwen!

A man in a rabbit headdress in the audience at outdoor theatre.

Theatr Awyr Agored

Bydd Castell Ystumllwynarth yn cynnal dau berfformiad theatr awyr agored yr wythnos nesaf – bydd teuluoedd yn mwynhau Peter Pan, stori’r bachgen bytholwyrdd, ddydd Mercher 7 Awst am 2pm a Romeo and Juliet, chwedl dragwyddol Shakespeare am gariad a thrasiedi, nos Iau 8 Awst am 7pm.
Archebwch eich tocynnau nawr!

Noddir y Theatr Awyr Agored gan holidaycottages.co.uk.

A decorated model of a castle outside Swansea castle.

Castles in the Sky

Ydych chi wedi cymryd rhan yn llwybr cerfluniau Castles in the Sky eto?  Mae 32 o gerfluniau lliwgar a ddyluniwyd gan lu o artistiaid i’w gweld o gwmpas y ddinas yn ogystal ag 11 o gestyll bach i’w cadw a ddyluniwyd gan grwpiau cymunedol. Archwiliwch fap y llwybr i nodi cynifer ohonyn nhw â phosib. Dyma ffordd wych o dreulio diwrnod allan! Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ap i gasglu gwobrau, cyfrif eich camau a phleidleisio dros eich hoff gastell.

Mae Cyngor Abertawe’n falch o noddi Nights in Shining Armour yng Nghastell Abertawe.

promotional artwork for out of this world art exhibition

Dewch i’n lleoliadau diwylliannol

Cofiwch ein lleoliadau diwylliannol: mae Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas a llyfrgelloedd ar agor a cheir mynediad AM DDIM! Cymerwch ran mewn gweithdai, edrychwch ar yr arddangosfeydd a mwynhewch yr adeiladau godidog a’r hanes sydd ynddynt!

A female runner at the 10k holding her arms aloft and smiling.

10k Bae Abertawe Admiral – Ewch amdani!

Medal ddisglair, crys T i’w wisgo gyda balchder neu’r teimlad gwych pan rydych chi’n croesi’r llinell derfyn.
Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn.

Felly, p’un a ydych am gael rhywbeth i hyfforddi ar ei gyfer, eisiau rhedeg ar ran eich elusen ddewisol neu’n ceisio curo’ch amser gorau, sicrhewch taw 2024 yw’r flwyddyn rydych chi’n rhoi cynnig ar 10k Bae Abertawe Admiral, dydd Sul 15 Medi.

Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!

Mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y celfyddydau yn Abertawe yn ystod yr hydref. Fel rhan o’r cynlluniau hyn, mae Olympic Fusion wedi galw am weithwyr digwyddiadau.