Archebwch wyliau hanner tymor ym Mae Abertawe
Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan wyliau hanner tymor mis Chwefror! Mae'n amser ar gyfer seibiant haeddiannol, felly ewch i Fae Abertawe am antur llawn hwyl i'r teulu!
Ewch i fwynhau'r awyr agored! Byddwch yn barod i dreulio hanner tymor yn archwilio milltiroedd o'n morlin hardd, o Lwybr Arfordir Gŵyr i'n glannau tywodlyd. Cymerwch gip ar ein harweiniad i draethau i gael gwybodaeth am draethau hygyrch sy'n addas i deuluoedd (gyda chaffis a chyfleusterau wrth law) a thraethau tawelach a mwy diarffordd sy'n berffaith ar gyfer ymlacio. A chofiwch, mae croeso i'ch ci hefyd!

Os yw eich archwilwyr ifanc yn awyddus i archwilio'r bywyd gwyllt lleol (a neidio mewn ambell bwll hefyd!), ewch i Goed Cwm Penllergare, Gerddi Clun a'n mannau gwyrdd eraill i gael digonedd o awyr iach a hwyl i'r teulu!

Nid yw'r glaw yn ddigon i darfu ar yr hwyl sydd i'w chael ym Mae Abertawe! Mae digonedd o atyniadau a gweithgareddau dan do i gadw'r plant bach yn hapus, o sŵ trofannol (lle gallwch fwydo crocodeilod go iawn!), cwrs Ninja Warrior, dringo dan do, caffis gemau bwrdd ac amgueddfeydd (yr amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru!) - neu gallwch hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithdy i ddysgu am anifeiliaid hynafol gwych!

Ar ôl yr holl hwyl a sbri, beth am gael cip ar ein lleoedd i aros sy'n addas i deuluoedd – mae amrywiaeth o leoliadau yng nghanol y ddinas, ar yr arfordir neu yn llonyddwch cefn gwlad.
