Sefydlwyd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn 2014 gan Dave Cottle ac aelodau Clwb Jazz Abertawe, sy’n dathlu 75 mlynedd ers iddo ddechrau eleni. Felly, penderfynom edrych yn ôl ar ei hanes.

Sefydlwyd Clwb Jazz Abertawe ym 1949 gan y drymiwr lleol Derek Morgan, a oedd wedi dychwelyd i’r ardal yn dilyn gwasanaeth milwrol yn yr Almaen lle bu’n chwarae cerddoriaeth jazz gyda milwyr o America.

A black and white photo of six men in suits and ties.

Yn ystod ei 75 mlynedd, newidiodd enw’r clwb jazz a’i leoliad, wrth iddo ddechrau yng nghlwb Glanmor. Yn y 1950au, enw’r clwb oedd Cymdeithas Cerddoriaeth Fodern Abertawe, a gwnaed hyn i adlewyrchu sain newydd jazz a oedd yn dod i’r amlwg, mwy na thebyg. Yn y 1960au, cynhaliodd y gymdeithas gyfres o gyngherddau yn Neuadd Brangwyn ynghyd â pherfformiadau rheolaidd gyda pherfformwyr fel Ben Webster, Stan Tracey a Ronnie Scott yn diddanu’r cynulleidfaoedd lleol.

A black and white photo of a man playing saxophone in front of an audience.

Bu cyfnod anodd i Glwb Glanmor yn y 1970au a chaeodd, felly bu’n rhaid i’r gymdeithas jazz symud i Glwb y Rhyddfrydwyr yn St James’ Crescent, lle y parhaodd i gynnal perfformiadau’n rheolaidd gydag artistiaid fel Dill Jones, Stan Tracey Quartet, Al Haig a Humphrey Littleton. Yn ystod y degawd, cyflwynodd Glwb Jazz Abertawe gyngherddau mawr, gan gynnwys Band Mawr Woody Herman yn Top Tank ym 1977.

Black and white photo of a jazz band playing in a club in the 1970s.

Ym 1990, symudodd Clwb Jazz Abertawe i Ellington’s uchwben y New York yn Princess Way, lle cynhaliodd berfformiadau wythnosol, gan gynnwys perfformiad gan Wilson’s Brew a oedd yn cynnwys Jen Wilson.

Newidiodd enw’r clwb i Swansea Jazzland ym 1996 dan arweiniad Dave Cottle. Symudodd yn ôl i Glwb y Rhyddfrydwyr, a elwir bellach yn Glwb St James.

A black and white photo of five people around a piano in the 1990s.

Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd Swansea Jazzland sawl perfformiad cofiadwy wrth iddo groesawu artistiaid fel Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle, Bill Bruford, Shakatak, Band Hamish Stuart, NYJO, MYJO, Vincent Herring, Tim Garland, Ben Castle, Mike Clark a Harold Mayern.

Ar ôl 22 flynedd o berfformiadau wythnosol yng Nghlwb St James, bu’n rhaid i Swansea Jazzland ddod o hyd i gartref newydd ar ôl i’r clwb gau yn 2018 yn The Garage at Whitez yn Uplands, lle parhaodd i gynnal perfformiadau wythnosol.

A jazz band playing on stage to a packed room in the current day.

Ar ôl goroesi pandemig COVID-19, symudodd y clwb jazz i’w gartref newydd a’i leoliad presennol yn CU Mumbles yn 2023, lle mae’n parhau i gyflwyno’r gerddoriaeth jazz fyw orau’n wythnosol i ddiddanu cynulleidfaoedd lleol.