Mae'r haf wedi cyrraedd! Ydych chi wedi cynllunio eich gwyliau neu eich seibiant byr eto? Dewch i ddarganfod y ddihangfa ddelfrydol yn ystod yr haf ym Mae Abertawe.

Treuliwch ddyddiau heulog yn ymlacio ar ein traethau - sy'n berffaith ar gyfer adeiladu cestyll tywod, padlo yn y môr ac archwilio pyllau trai gyda'r plant. Mwynhewch olygfeydd godidog o'r môr wrth i chi gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr gyda'ch anifail anwes neu rhowch gynnig ar rywbeth newydd fel marchogaeth neu fynd ar daith atyniadol ar gwch. Ydych chi'n dwlu ar chwaraeon dŵr? Rhowch gynnig ar syrffio, padlfyrddio, caiacio neu hyd yn oed arfordiro!

4 people standing on surf boards on a beach in Swansea Bay

Pan fo'r haul yn diflannu, gallwch gael hwyl dan do. Gallwch fynd i lawr y sleidiau ym mharc dŵr yr LC, gweld anifeiliaid ecsotig yn Sŵ Trofannol Plantasia, dringo i uchderau newydd ar wal ddringo dan do, profi eich sgiliau yn Ninja Warrior neu wrth daflu bwyell, neu ymlacio am y prynhawn mewn caffi gemau bwrdd.

A father and son at the Climbing Hanger Swansea

Mae angen hwyl ar oedolion hefyd! Ewch ar daith i ddarganfod cyfrinachau eich hoff ddiodydd yn Nistyllfa Penderyn, Gower Brewery neu Gower Gin. Iechyd da!

Mae Bae Abertawe'n llawn bwrlwm yn ystod yr haf hefyd. Mwynhewch wyliau bwyd a diod, cerddoriaeth fyw, neu theatr awyr agored yng Nghastell Ystumllwynarth.

Tour guide explaining the penderyn distillery to a couple

Ydych chi'n barod i ymddiried yn y gwynt?

Syrffio ar adain yw'r gweithgaredd dŵr newydd lle rydych chi’n defnyddio'r gwynt drwy ddal adain chwyddadwy – does dim angen profiad! Dechreuwch drwy badlfyrddio ar eich traed a byddwch yn teimlo'r cyffro wrth i chi hwylio ar draws y dŵr. Mae rhyddid a hwyl ar y ffordd!

Mae SUP Gower yn cynnig ffordd wych o fwynhau morlin Bae Abertawe drwy wersi a chyfarpar ar gyfer syrffio ar adain a chwaraeon dŵr eraill, gan gynnwys padlfyrddio ar eich traed a byrddau syrffio â motorau.

A man wingsurfing with SUP Gower

Dewch i gael blas ar Gymru gyda bwyd y môr wedi'i goginio'n ffres a'i weini o flaen golygfeydd arfordirol nodedig, neu ddarganfod danteithion bwyd o bedwar ban byd yng nghanol y ddinas. Ac os oes gennych chi ddant melys, mae pice ar y maen a hufen iâ cartref blasus yn hanfodol!

A family enjoying an ice-cream in mumbles, swansea

Mae digonedd o ddewisiadau llety ar gael – gallwch ddeffro i weld golygfeydd o'r môr mewn gwersyll arfordirol clyd, mwynhau bwthyn hunanarlwyo mawr yng nghefn gwlad, neu gael eich maldodi mewn gwesty ffasiynol yng nghanol y ddinas.

A woman swinging a toddler by his arms in front of a camper van.

Gwnewch Fae Abertawe'n #LleHapus i chi yr haf hwn!