Byddwch yn barod i brofi byd cerddoriaeth bywiog Abertawe yn ystod Amplitude, a fydd yn dychwelyd i Amffitheatr Abertawe rhwng 16 ac 17 Awst!
Mae'r digwyddiad deuddydd am ddim hwn yn dathlu cerddoriaeth fyw ac yn arddangos cymysgedd eclectig o genres, o roc annibynnol a jazz i gerddoriaeth bop a gwerin, gan gynnwys rhai o berfformwyr mwyaf cyffrous yr ardal.
Yn cyflwyno…
Joseph Lewis
Bydd y canwr/cyfansoddwr ifanc o Lanelli, Joseph Lewis, yn agor Gŵyl Amplitude ddydd Sadwrn. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o berfformwyr poblogaidd y genre acwstig-Americana fel Jason Isbell, Ryan Adams a Bob Dylan, mae Joseph yn angerddol iawn am ysgrifennu a pherfformio ei ddeunydd ei hun.
Bydd Joseph Lewis yn perfformio ddydd Sadwrn 16 Awst am 1pm.
Whilbur
Yn perfformio ar y llwyfan ar ôl Joseph ddydd Sadwrn fydd Whilbur, band gwerin gwreiddiol o Gŵyr sy'n adnabyddus am eu sain sy'n cyfuno genres a'u hegni heintus.
Gydag arddull sy'n cyfuno cerddoriaeth roc annibynnol ag elfennau arbrofol, mae eu cerddoriaeth yn anrhagweladwy ac yn ennyn llawer o ddiddordeb. P'un a ydych yn dwlu ar gerddoriaeth leol neu'n ei darganfod am y tro cyntaf, mae perfformiad Whilbur yng Ngŵyl Amplitude yn addo tynnu’ch sylw yn ystod penwythnos llawn talent.
Bydd Whilbur yn perfformio'n fyw yn Amplitude ddydd Sadwrn 16 Awst am 2pm.
Kizzy Crawford
Mae cerddoriaeth Kizzy Crawford, canwr/cyfansoddwr dwyieithog o Gymru, yn cyfuno canu’r enaid, canu gwerin, a jazz â sain gyfoes ac unigryw. Gyda gwreiddiau yng Nghymru a Barbados, mae Kizzy yn adnabyddus yn y byd cerddoriaeth Gymraeg gyfoes oherwydd ei llais cryf a mynegiannol a'i sain sy'n cyfuno genres.
Bydd Kizzy yn perfformio yn Amplitude ddydd Sadwrn 16 Awst am 3pm.
James T Morgan
Mae'r cerddor o Abertawe, James T Morgan yn adnabyddus am ei berfformiadau byw cynhyrfiol ac am gyfansoddi caneuon emosiynol. Mae James, sydd wedi perfformio mewn digwyddiadau fel Gŵyl Ymylol Abertawe, yn defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth annibynnol, canu gwerin a cherddoriaeth hamddenol. Yn ddiweddar, mae wedi rhyddhau ei record EP gyntaf, 'In Our Endless Day'. Mae ei gerddoriaeth yn dilyn arddull atmosfferig a myfyriol sy'n apelio at gynulleidfaoedd.
Gallwch wylio James yn perfformio yn Amplitude ddydd Sadwrn 16 Awst am 4pm.
Ratoon
Sefydlwyd Ratoon, band roc amgen o dde Cymru sy’n adnabyddus am eu sain emosiynol a llawn egni, yn ystod y pandemig. Ffurfiwyd y band drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r aelodau, Jack Garrett, Sam Davies, Matti Huxtable ac Eifion Davies, yn defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth bop, bync, ska a roc Prydeinig. Mae’r band wedi cael sylw'n gyflym oherwydd eu caneuon 'Missing' a 'Hunting for Sheep.'
Bydd Ratoon yn perfformio'n fyw ar lwyfan Amplitude ddydd Sadwrn 16 Awst am 5pm.
The Fiends
Mae The Fiends, sef band roc annibynnol amgen pum aelod o Abertawe, yn adnabyddus am eu sioeau byw egnïol iawn. Ffurfiwyd y band yn ystod y pandemig, a gwnaethant gael sylw'n gyflym oherwydd eu record sengl gyntaf, 'Glitz & Glamour'. Ers hynny, gwerthwyd pob tocyn ar gyfer eu cyngherddau ac mae eu selogion yn ffyddlon i'w seiniau garw a melodaidd. Gan ddefnyddio dylanwadau o fandiau fel Fontaines, D.C ac Arctic Monkeys, mae The Fiends yn llawn emosiwn cryf pan fyddant yn perfformio ar y llwyfan.
Gallwch wylio'r band yn fyw yn Amplitude nos Sadwrn 16 Awst am 6pm.
Who's Molly
Mae Who's Molly?, band roc annibynnol deinamig sy'n dod i'r amlwg ym myd cerddoriaeth bywiog Abertawe, wedi denu sylw cynulleidfaoedd ar draws y DU a thu hwnt oherwydd eu sain galonogol a'u geiriau teimladwy.
Mae gan y band, a ffurfiwyd yn 2017 gan Karl Morgan, Matt Williams, Rhys Morgan a Huw Jenkins, a oedd yn ffrindiau yn ystod plentyndod, enw da am gyfansoddi traciau sinematig a ddefnyddiwyd ar gyfer rhagluniau ffilmiau byd-eang, darllediadau chwaraeon a hysbysebion. Mae Who's Molly?, a oedd yn arfer recordio'u cerddoriaeth mewn stiwdio gartref, wedi cael eu cymharu â The Killers ac Imagine Dragons. Mae’r band yn parhau i lwyddo, ac yn ddiweddar gwnaethant gefnogi McFly yn ogystal â rhyddhau eu record sengl ddiweddaraf, 'Night Driver' ym mis Mehefin 2025.
Gallwch weld Who's Molly?, sef prif berfformwyr Gŵyl Amplitude, nos Sadwrn 16 Awst am 7pm.
Manon
Awdur caneuon Cymraeg o Abertawe yw Manon. Mae Manon yn ysgrifennu caneuon yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg.
Bydd Manon yn perfformio ar lwyfan Amplitude ddydd Sul 17 Awst am 1pm.
Hermione Wild
Mae Hermione Wild, sy’n cyfuno melodïau wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth werin ag ymagwedd reddfol at greadigrwydd, yn dod â llais unigryw i Amplitude Abertawe. Fel cerddor, artist ac ymarferydd ysbrydol, mae ei pherfformiadau emosiynol ac iachaol yn cynnig ennyd o fyfyrio a chysylltiad i gynulleidfaoedd. Gallwch ddisgwyl perfformiad gonest a phwerus gan un o berfformwyr mwyaf amlddimensiynol Abertawe.
Bydd Hermione yn perfformio'n fyw yn Amplitude ddydd Sul 17 Awst am 2pm.
Guy Nicholas Challenger
Mae Guy Nicholas Challenger, canwr/cyfansoddwr o Abertawe, yn adnabyddus am ei waith emosiynol iawn dan yr enwau Normal Behaviour a Westvale Prince. Mae ei gerddoriaeth yn cyfuno roc amgen, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth emo, gan archwilio themâu hunaniaeth ac iechyd meddwl gyda gonestrwydd a chreadigrwydd.
Bydd Guy yn perfformio ar lwyfan Amplitude ddydd Sul 17 Awst am 3pm.
FreeFall.
Mae FreeFall., sy'n dod i’r amlwg ym myd cerddoriaeth bywiog Abertawe, yn cael sylw oherwydd eu cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth bync a melodïau sy’n cyfleu eu teimladau.
Mae FreeFall. yn adnabyddus am eu perfformiadau byw deinamig a'u caneuon emosiynol fel ‘Head's Underwater’, ac mae gan y band gefnogwyr ffyddlon yn ne Cymru a thu hwnt.
Cadwch lygad am record EP gyntaf y band, 'Fire', sy'n cael ei rhyddhau ar 15 Awst.
Mae FreeFall. wedi perfformio yn Llundain a Bryste'n ddiweddar, ac maent yn addo perfformiad gonest, diddorol, pwerus a bythgofiadwy ar lwyfan Amplitude.
Gwyliwch nhw'n fyw yn Amplitude ddydd Sul 17 Awst am 4pm.
Siglo Six
Mae Siglo 6, sy'n rhan o The Siglo Section Collective, yn dod â chyfuniad deinamig o gerddoriaeth ffync modern a jazz i Amplitude Abertawe. Mae'r ensemble llai hwn, a arweinir yn bennaf gan Loz Collier, yn arddangos rhai o gerddorion ifanc gorau Cymru, sy'n perfformio alawon jazz a chanu'r enaid modern mewn ffordd fywiog ac yn dathlu creadigrwydd a chymuned.
Bydd Siglo 6 yn Amplitude ddydd Sul 17 Awst am 5pm.
Disco Panther
Bydd Disco Panther yn dod â Gŵyl Amplitude i ben mewn steil gyda chyfuniad egnïol o gerddoriaeth ffync a dawns. Mae’r band lleol poblogaidd hwn yn adnabyddus am eu rhythmau heintus a'u setiau sy'n ysgogi'r dorf i ddawnsio, ac maent yn addo dod â'r ŵyl i ben mewn steil gyda pherfformiad bywiog sy'n dathlu enaid creadigol Abertawe.
Peidiwch â cholli Disco Panther yn fyw yn Amplitude nos Sul 17 Awst am 6.30pm.