Mae dathliad o greadigrwydd mwyaf beiddgar Abertawe yn ôl!

Byddwch yn barod am benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth fyw, comedi, celf a pherfformiad wrth i'r Ŵyl Ymylol feddiannu lleoliadau ar draws canol y ddinas.

ddydd Iau 27 i ddydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025 cewch weld artistiaid newydd a sefydledig anhygoel yn perfformio ar draws y tri diwrnod.

Beth bynnag yw eich diddordeb, bydd lleoliadau Abertawe'n fwrlwm o egni a diwylliant. O berfformiadau cartrefol i dorfeydd mawr, a gweithdai ymarferol i brofiadau galw heibio y gall y teulu cyfan eu mwynhau.

Nid gŵyl yn unig yw hon – mae'n ddathliad o bopeth hynod, creadigol a chymunedol. Bydd amrywiaeth eang o bethau i chi eu mwynhau!

Danielle Lewis and Afro Cluster

Uchafbwyntiau:

  • Yn ôl oherwydd galw mawr: Afro Cluster a'u cyfuniad nodweddiadol o gerddoriaeth hip hop, Afrobeat a ffync!
  • Y triawd pync electronig o Lundain: MADMADMAD.
  • Sandro Ford, digrifwr Cymreig-Eidalaidd a chanddo ddawn am adrodd straeon a gwneud arsylwadau craff sy'n sicr o wneud i chi chwerthin.
  • Danielle Lewis o orllewin Cymru, a fydd yn cyfuno geiriau gonest ag awyrgylch sinematig.
  • Mwy na 100 o berfformiadau a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, comedi, y gair llafar, gweithdai rhyngweithiol, perfformiadau galw heibio a mwy! 
Sandro Ford and Mad Mad Mad

Ble: mewn sawl lleoliad yng nghanol dinas Abertawe.
Pryd: dydd Iau 27 i ddydd Sul 29 Tachwedd 2025.
Tocynnau a mynediad: £25 am docyn penwythnos (mae tocynnau dydd a thocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar gael ar y diwrnod os oes lle ar gael).

Peidiwch â cholli eiliad! Cyhoeddir manylion yn ddyddiol ar dudalennau Instagram a Facebook Gŵyl Ymylol Abertawe, neu gallwch danysgrifio i restr bostio Hwb Cerddoriaeth Abertawe i fod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod.

Ddim yn artist nac yn berfformiwr ond eisiau ymuno yn yr hwyl? Dewch i wirfoddoli yng Ngŵyl Ymylol Abertawe a chewch weld yr ŵyl o safbwynt newydd sbon.

The Swansea Fringe 2025 Line-up