Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure

Mae'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd yn gyffrous i rannu'r wybodaeth bod Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure yn ôl! Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni'n ei hadnabod ac yn dwlu arni.

Boed yn wirfoddolwyr neu'n hyfforddwyr sy'n rhoi awr ar ôl awr o'i amser yn y cefndir, yn dîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn neu'n chwaraewr sydd wedi cyflawni'r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe'n ddinas sy'n llawn pencampwyr chwaraeon.

Mae ein hathletwyr wedi gweithio'n galed iawn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a nodi eu cyflawniadau a'u cyfraniadau gwych i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.

Bydd 15 o gategorïau'n dathlu cyflawniadau, gyda diolch i'n noddwyr:

  • Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn noddir gan ArvatoConnect
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru
  • Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
  • Chwaraewr Iau'r Flwyddyn
  • Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn
  • Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe
  • Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Peter Lynn and Partners
  • Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn 
  • Gwobr Annog Abertawe Actif 
  • Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law
  • Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Spartan Scaffolding Solutions
  • Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald's
  • Cyfraniad Oes i Chwaraeon
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

    Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe o 7pm nos Mercher 2 Ebrill 2025 yn Neuadd Brangwyn mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. Bydd tocynnau ar werth o fis Ionawr 2025. 

Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024