Your browser is not supported for this experience.
We recommend using Chrome, Firefox, Edge, or Safari.
Paratowch at hud Gorymdaith y Nadolig Abertawe lle bydd Siôn Corn yn ymuno â ni i gynnau goleuadau’r Nadolig a chroesawu tymor yr ŵyl i Abertawe.
Felly sut gallwch fwynhau’r sioe i’r eithaf?
Bydd Gorymdaith y Nadolig Abertawe yn dechrau am 5pm nos Sul 19 Tachwedd.
Bydd bandiau gorymdeithio, cerbydau sioe lliwgar, cymeriadau ffilmiau Nadoligaidd, offer chwyddadwy’r Nadolig, cymeriadau sy’n goleuo ac wrth gwrs Siôn Corn yn ei sled!
Dewch i weld eich hoff dywysogesau ac archarwyr, ac i gael eich syfrdanu gan wisgoedd ac arddangosfeydd swynol wedi’u goleuo. Bydd gorymdaith eleni’n llawn hwyl yr ŵyl gan fod cannoedd o bobl ifanc o grwpiau cymunedol y ddinas wedi achub ar y cyfle i fod yn rhan ohoni.
Bydd tywysoges, cymeriadau o’r sioe gerdd boblogaidd, ynghyd â chast o gannoedd o wirfoddolwyr o’r gymuned i’w gweld ar strydoedd canol y ddinas wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Caiff dwy goeden Nadolig eu goleuo – un ar ben Sgwâr y Castell ac un y tu allan i westy The Dragon.
Gall colli plentyn – hyd yn oed am ychydig eiliadau – fod yn ofidus iawn a gall ein cynllun Bandiau arddwrn diogelwch helpu i dawelu’ch meddwl a’ch galluogi i gael cymorth yn gyflym. Noddir gan Consumer Energy Solutions.
Gellir casglu bandiau arddwrn o:
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 5pm, gan fynd ar hyd Princess Way ac i fyny tuag at Sgwâr y Castell. Yma, bydd Siôn Corn yn cynnau rhai o’r goleuadau Nadolig o’i sled ac yn codi llaw ar blant bach a mawr! Yna bydd yr orymdaith yn parhau ar hyd y Stryd Fawr, i lawr Orchard Street ac ar hyd Ffordd y Brenin, lle bydd Siôn Corn yn cynnau gweddill y goleuadau Nadolig yng nghanol y ddinas cyn teithio ar hyd gweddill Ffordd y Brenin.
Er mwyn cynnal yr orymdaith yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau ar noson y digwyddiad. Lle y bo’n bosib, cânt eu cau ar raglen dreigl. Bydd mynediad i wasanaethau brys ar bob adeg
Bydd llwybr dynodedig Gorymdaith y Nadolig fel a ganlyn; Victoria Road, Princess Way, Caer Street, Castle Bailey Street, Castle Street, y Stryd Fawr, Orchard Street, Ffordd y Brenin. Felly, bydd y trefniadau cau ffyrdd, llwybrau dargyfeirio a chyfyngiadau parcio ar waith.
Cau ffyrdd
Rhaglen Dreigl o Gau Ffyrdd
*Sylwer – brasamcan o amserau yw’r rhain
Bydd gorymdaith eleni’n dechrau am 5pm, a disgwylir i ganol y ddinas fod yn brysur iawn yn ystod y prynhawn a thrwy gydol y digwyddiad felly mae’n bwysig caniatáu digon o amser i gyrraedd.
Bydd nifer o feysydd parcio ar agor ond effeithir arnynt pan fydd y ffyrdd ar gau o oddeutu 4pm i 6.30pm. Dyma nhw: Dwyrain Park Street, Gorllewin Park Street, Picton Lane, Pell Street, Stryd Rhydychen a Worcester Place.
Mae rhestr lawn o feysydd parcio canol y ddinas, gan gynnwys lleoliadau a chodau post, ar gael yn abertawe.gov.uk/meysyddparcio.
Bydd 2 safle parcio a theithio ar agor ar gyfer Gorymdaith y Nadolig: Fabian Way a Glandŵr. Bydd bysus yn gadael bob 15 munud o 2pm tan 5.15pm o safleoedd parcio a theithio Glandŵr a Fabian Way. Ar ôl yr orymdaith, byddant yn rhedeg o 6pm.
Mwy o wybodaeth Parcio a Theithio
Beth am ddychwelyd adref wedyn?
Oherwydd y nifer mawr o gerbydau sy’n debygol o fod yn gadael yr ardal o fewn amser byr, disgwylir i’r traffig fod yn drwm ar ddiwedd y digwyddiad, felly byddwch yn amyneddgar.
Bydd synau uchel, goleuadau’n fflachio ac effeithiau arbennig yn ystod yr orymdaith – os oes angen rhywle mwy tawel arnoch i fwynhau’r orymdaith, bydd y rhan dawelaf ar ran isaf Ffordd y Brenin (ochr St Helen’s Road) a phen y Stryd Fawr a Stryd y Berllan. Ond dylech sylweddoli bod natur yr orymdaith yn golygu y bydd sŵn a goleuadau’n bresennol trwy gydol y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw bryderon ac rydych am eu trafod ymhellach, ffoniwch ni ar 01792 635428. Bydd ardal wylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street.
Does dim angen cadw lle, dewch ar y noson. Toiledau hygyrch a nifer cyfyngedig o seddi ar gael hefyd yn yr ardaloedd gwylio.
Noddwyr
Noddwr Bandiau arddwrn diogelwch
Diolch i westy Morgan’s am ddarparu’r ystafelloedd newid i’r perfformwyr.
Diolch i Days Rental a Days Motor Group am ddarparu cerbydau ar gyfer yr orymdaith.
Cyflwynir coed Nadolig arbennig Abertawe mewn partneriaeth â Communities for Work+ a Kartay