28 Chwefror ac 1 Mawrth 


Ymunwch â ni yng nghanol dinas Abertawe ar 28 Chwefror ac 1 Mawrth ar gyfer gŵyl Croeso mewn cydweithrediad â Tomato Energy. Dros ddau ddiwrnod, o 10am i 4pm, gallwch ddarganfod y diwylliant Cymreig lleol gorau gan gynnwys bwyd a diod, arddangosiadau coginio, cerddoriaeth fyw, adloniant, celf a chrefft, llwybr i blant a llawer mwy. 

Gallwch hyd yn oed ddweud Shwmae a chael cyfle i ymdrwytho yn y Gymraeg - bydd digonedd o gymorth i’r rheini sy'n dysgu (neu sy'n ystyried dysgu) Cymraeg. Gwahoddir pobl o bob oed i wisgo'u hoff wisgoedd Cymreig a chrysau rygbi!

Joio Pen-cogyddion Enwog a Blasau Cryf

Ymunwch â ni yng ngŵyl Croeso am ddeuddydd cyffrous o arddangosiadau bwyd a diod byw. O deisennau blasus gan enillydd The Great British Bake Off, Georgie Grasso 
i seigiau bwyd môr creadigol a seigiau sy'n gyfuniad o fwyd Cymreig ac Indiaidd a hyd yn oed dosbarth meistr gwneud coctels, mae rhywbeth i bawb. P'un a ydych yn dwlu ar fwyd, yn gogydd cartref neu'n chwilio am ffordd ddifyr o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, peidiwch â cholli'r cyfle hwn i brofi blasau anhygoel, straeon llawn ysbrydoliaeth a blas o Gymru ar ei gorau!

 

Joio Cerddoriaeth Fyw ac Adloniant

Paratowch am benwythnos gwych o gerddoriaeth fyw ac adloniant yng ngŵyl Croeso! Gyda chymysgedd o gorau, bandiau a pherfformiadau, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. P'un a ydych yn galw heibio i wrando am ychydig neu'n bwriadu aros drwy'r dydd, gallwch ddisgwyl cerddoriaeth wych, digon o egni ac awyrgylch croesawgar.

 


Ni Ddaw'r Gerddoriaeth i Ben Pan Fydd yr Haul yn Machlud

Rydym yn falch o gyhoeddi bod digwyddiad #NosweithiauCerddCroeso yn dychwelyd eleni gyda chyfres o gyngherddau dwyieithog am ddim ar draws penwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Mae tocynnau am ddim, ond argymhellir eich bod yn archebu ymlaen llaw (hyn a hyn o docynnau sydd ar gae!)

27 Chwefror  - FreeFall at The Bunkhouse

28 Chwefror - Delwyn Siôn at Tŷ Tawe

1 Mawrth - The Family Battenberg at Elysium

 

Hwyl i'r Teulu Cyfan

Mae digon o hwyl i'r plant hefyd yng ngŵyl Croeso eleni! O datŵs llwch disglair am ddim a chymeriadau Cymreig i sesiynau adrodd straeon a gweithgareddau ymarferol fel gwneud bathodynnau a chlymliwio, mae rhywbeth i bawb A bydd gweithgareddau dysgu gydol oes yn difyrru meddyliau ifanc.

 

Llwybr Gweithgareddau i Blant 
Cefnogir gan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 

Mae Llwybr Gweithgareddau cyffrous, a gefnogir gan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, i'w gael ar gyfer archwilwyr bach. Cymerwch ran yn Llwybr Croeso i gael cyfle i ennill casgliad o wobrau gwych! 

Dewch o hyd i bob un o'r 8 llun ar thema Gymreig sydd wedi'u cuddio ar draws canol y ddinas i gael bag llawn rhoddion trwy garedigrwydd Original Cottages, sy'n cynnwys tocyn mynediad AM DDIM i blentyn i Sŵ Trofannol Plantasia, potel o ddŵr gan Radnor Hills, afal gan Sainsbury's a het fwced Joio Bae Abertawe. 

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen y llwybr â'ch manylion cyswllt, cewch eich cynnwys hefyd mewn cystadleuaeth i ennill casgliad o wobrau gan gynnwys: 

  • 4 tocyn i wylio Abertawe yn erbyn Middlesbrough 
  • Tocyn teulu i Sŵ Trofannol Plantasia a thegan meddal 
  • Tocyn teulu am 2 awr ym mharc trampolinio Buzz 
  • 2 docyn i wylio'r Gweilch yn erbyn Connaught 

Diolch i'n Noddwyr!


Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Tomato Energy a Bwyd a Diod Cymru. 
Partner teithio - First Cymru 
Cefnogir y babell fawr bwyd a diod gan Nathaniel Cars.  
Cefnogir y Llwybr Gweithgareddau i Blant gan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant