Gallwch ddod o hyd i hwb cymunedol bywiog Y Storfa, hen adeilad BHS gynt, ar Stryd Rhydychen, ac mae bellach yn gartref i Lyfrgell Ganolog Abertawe. Mae ar agor 7 niwrnod yr wythnos, gyda darpariaeth hunanwasanaeth ar ddydd Llun, ac mae'n cynnig cyfleusterau newydd gwych yng nghanol y ddinas.

Cymerwch gip y tu mewn i'r datblygiad newydd cyffrous hwn a darganfyddwch bopeth sydd gan y gwasanaeth llyfrgell i'w gynnig ers symud i'w gartref newydd.
 

P'un a ydych yn chwilio am eich llyfr nesaf, yn ceisio cwblhau prosiect ymchwil, neu'n chwilio am hwyl am ddim i'r teulu, mae gan Lyfrgell Ganolog Abertawe rywbeth at ddant pawb. Isod, ceir cipolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael:

  • Gwasanaeth benthyca llyfrau gan gynnwys llyfrau print bras, llyfrau llafar a deunyddiau e-ddarllen.
  • Digwyddiadau a sesiynau hanes lleol
  • Sesiynau hanes teulu
  • Llyfrgell i Blant a digwyddiadau i blant
  • Mannau astudio ac ystafelloedd cyfarfod y gellir eu harchebu
  • Gemau a gemau bwrdd
  • Wi-Fi a chyfrifiaduron i'w defnyddio am ddim
Y Storfa Seating Area

Digwyddiadau i Bob Oedran

O amserau rhigwm i blant a sesiynau tynnu llun gyda darlunwyr plant poblogaidd, i sgyrsiau hanes lleol a digwyddiadau gydag awduron ar draws gwahanol genres, mae rhaglen wych o ddigwyddiadau ar gynnig yn Y Storfa.

Children's Library in Y Storfa

Sgyrsiau Hanes Lleol

Darganfyddwch fyd diddorol hanes Abertawe gyda'r Sgyrsiau Astudiaethau Lleol. Mae digwyddiadau newydd yn cael eu cynnal bob mis. Peidiwch â cholli'r sesiynau diddorol hyn, nodwch y dyddiad yn eich calendr:

Dydd Sadwrn 4 Ebrill, 2pm - Mark Rees, Steve Balsamo a gwesteion arbennig: Paranormal Unpacked - The Rhondda Street Poltergeist 1965 (dangosiad a thrafodaeth banel)

Dydd Sadwrn 11 Ebrill, 2pm – Anthony Hughes, Oystermouth Castle and its people

Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 2pm - Bernard Lewis: 110 Years On - The Swansea Pals at Mametz Wood

Rhaid cadw lle ymlaen llaw. I gadw'ch lle, ffoniwch y Llyfrgell Ganolog yn uniongyrchol ar 01792 636464.

Local History talk at Y Storfa

Sesiynau Hanes Teulu

Ydych chi eisiau darganfod hanes eich teulu? Mae sesiynau un i un sy'n para awr ar gael i'w harchebu gyda llyfrgellwyr ac ymchwilwyr yn Y Storfa.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u teilwra i ymchwilio i deuluoedd unigol, a bydd cyfle i chi ddarganfod sut i ddechrau ymchwilio i hanes eich teulu gan ddefnyddio gwefannau hanes teulu, archifau a chasgliadau papur newydd, mapiau a chasgliadau argraffedig y llyfrgell.

Cynhelir y sesiynau am 1pm, 2pm a 3pm ar 22 Ebrill, 6 Mai a 20 Mai.

Rhaid cadw lle. I gadw lle ar gyfer sesiwn Hanes Teulu, neu i drafod unrhyw ymholiadau, e-bostiwch y Llyfrgell Ganolog yn llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637503

Sesiynau Hanes Teulu

Cyfle i Holi Llyfrgellydd Sesiynau Galw Heibio yn y Llyfrgell Ganolog, Y Storfa

Oes gennych gwestiwn? Ydych chi'n chwilio am wybodaeth neu angen help gyda'ch ymchwil? Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau'r llyfrgell, y casgliadau, neu arweiniad ar ble i ddechrau arni? Mae arbenigwyr Cyfeirio ac Astudiaethau Lleol wrth law i'ch helpu.

Does dim angen trefnu apwyntiad, ewch i lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog rhwng 1pm a 4pm ar ddydd Mawrth neu rhwng 10am ac 1pm ar ddydd Iau.

Y Storfa's Central Seating Area

Oriau Agor

Mae'r Storfa a Llyfrgell Ganolog Abertawe ar agor 7 niwrnod yr wythnos. Mae'r safle ar agor ar sail hunanwasanaeth yn unig ar ddydd Llun.

Dydd Llun: 9.00am - 5.30pm (hunanwasanaeth yn unig)
Dydd Mawrth: 9.00am - 5.30pm
Dydd Mercher: 9.00am - 7.00pm
Dydd Iau: 9.00am - 5.30pm
Dydd Gwener: 9.00am - 5.30pm
Dydd Sadwrn: 10.00am - 4.00pm
Dydd Sul: 10.00am - 4.00pm

Mae'r Storfa hefyd yn gartref i amrywiaeth o wasanaethau eraill sy'n cael eu cynnal gan y cyngor, gan gynnwys Y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Refeniw a Budd-daliadau, y gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ac Archifau Gorllewin Morgannwg, yn ogystal â Gyrfa Cymru, Llyfrgell Glowyr De Cymru a Chyngor ar Bopeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Lyfrgell Ganolog Abertawe yn llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637503

Y Storfa - Central Library Seating Area