Awdur
Your browser is not supported for this experience.
We recommend using Chrome, Firefox, Edge, or Safari.
Gallwch fwynhau te prynhawn moethus Penrhyn Gŵyr ym Mharc Le Breos. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch ar y teras sy’n edrych dros y gerddi godidog. Yn y misoedd oerach gallwch fwynhau’r hen ystafell fwyta gyda’r tân coed neu’r ystafell wydr olau ac awyrog â golygfeydd dros y tiroedd amgylchynol sydd wedi’u tirlunio. Gweinir te prynhawn drwy gydol y flwyddyn (dydd Mercher i ddydd Sadwrn o 3pm). Gellir ychwanegu gwydraid oer o Prosecco, neu seidr neu gwrw lleol. Rhaid cadw lle.
Dewch i fwynhau Te Prynhawn ym Man Geni a Chartref Teuluol Dylan Thomas. Ar ôl eich taith dywys hunanarweiniol, gallwch fwynhau te prynhawn teuluol wrth wrando ar waith Dylan. Mae te nodweddiadol yn cynnwys digonedd o sgonau hyfryd gyda hufen a jam mefus, pice ar y maen, teisennau crwst neu efallai teisen flasus, a detholiad o frechdanau ffres. Byddwch hefyd yn derbyn paned o de Cymreig wedi’i weini mewn hen set o lestri Edwardaidd.
Gallwch fwynhau Te Prynhawn o safon yn Bistrot Pierre, sy’n cyfuno te prynhawn Prydeinig a bwyd Ffrengig clasurol. Caiff y detholiad o croissants a brechdanau sawrus a sgonau ffrwythau sy’n cael eu gweini gyda hufen tolch a jam mefus eu dilyn gan ddetholiad o deisennau gan gynnwys teisen Victoria, teisen cyffug siocled ac Eton Mess. Caiff y cyfan ei weini gyda phaned o de neu goffi – neu gallwch uwchraddio i wydriad o win pefriog neu Martini!
Mae The Welsh House yn ceisio defnyddio’r cynnyrch Cymreig gorau – ac mae hynny’n wir ar gyfer eu te prynhawn hefyd – gyda danteithion Cymreig poblogaidd fel Bara Brith, pice ar y maen (gan gynnwys fersiynau caws a chennin!) a risolau Morgannwg. Gallwch fwyta’r cyfan gyda phaned o de neu goffi, neu ddiod befriog!
Dewch i fwynhau te prynhawn moethus gyda’r holl drimins yn Sullivans Tea and Coffee Co, neu rhowch gynnig ar De Brecwast – afocado ar dost bach, brechdanau cig moch a chaws bach a croissants ffres… ffordd hyfryd o ddechrau’r diwrnod! Mae’n rhaid cadw lle er mwyn osgoi colli mas ar y pain aux chocolat!
Dewch i fwynhau te prynhawn mewn steil yng Ngwesty Morgans; brechdanau bys a bawd, detholiad o deisennau a sgonau – gan gynnwys ein teisennau poblogaidd lleol – pice ar y maen! Gallwch fwynhau te traddodiadol gyda phaned o de neu goffi neu uwchraddio i wydriad o Prosecco!