Cynhelir Sioe Awyr Cymru 2024 yr wythnos hon, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Fae Abertawe ar gyfer penwythnos llawn hwyl. Nid yw’r Sioe Awyr hon yn un arferol – byddwch yn barod am ddiwrnod o hwyl yn yr awyr, styntiau anhygoel a chyffro di-baid!
Yn ystod Sioe Awyr Cymru byddwch yn gallu gwylio arddangosiadau erobateg sy’n herio disgyrchiant gan Red Arrows yr RAF (Cefnogir y Red Arrows Greatest Hits Radio) a Typhoon yr RAF yn ogystal â Black Cats y Llynges Frenhinol a Yak 50. Ond nid dyna’r cyfan! Yn ogystal â’r arddangosiadau cyffrous yn yr awyr, bydd stondinau masnach yn cynnig bwyd a diod blasus at ddant bawb.
Ond mae mwy! Bydd yr arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10.00am i 6.00pm ar y ddeuddydd, gallwch gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi’r traffig ac archwilio’r arddangosiadau ar y ddaear cyn i’r cyffro ddechrau yn yr awyr. Bydd arddangosiadau ar y ddaear ar hyd Bae Abertawe, ac maent yn cynnwys pentref milwrol, cerddoriaeth fyw, ardal hwyl i’r teulu newydd sy’n cynnwys gweithgareddau AM DDIM i bobl o bob oedran. Bydd hefyd ddiddanwyr i blant, gweithdai crefft, gemau rhyngweithiol, crefftau a gemau ar thema cynaliadwyedd, sesiwn rhoi cynnig ar chwaraeon a llawer mwy!
Hefyd, byddwn yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru yn ystod Sioe Awyr Cymru eleni, gan anrhydeddu ein milwyr gwrywaidd a benywaidd. Bydd arddangosfa fawr o stondinau milwrol ac asedau tir, yn ogystal â gweithgareddau ‘rhowch gynnig arni’.
Mwy o wybodaeth

Mae amrywiaeth o safleoedd Parcio a Theithio wedi cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod eich profiad mor bleserus â phosib. Gallwch gynllunio a threfnu eich lle parcio ymlaen llaw heddiw
Rydym yn falch o ddatgan ein bod yn cyhoeddi amserlen Sioe Awyr Cymru yn rhad ac am ddim eleni! Noddwr gan FRF DS Swansea
Ciolch i’n noddwyr a chefnogwyr:
Cefnogir y Red Arrows gan Greatest Hits Radio
Travel House – Noddwr Bwrdd Hedfan
FRF Toyota – Noddwr y bandiau arddwrn ar gyfer plant sydd ar goll
FRF DS Swansea – Noddwr yr Amserlen Sioe Awyr Cymru 2024
Great Western Railway – Partner Teithio
First Cymru – Partner Teithio
Transport for Wales – Partner Teithio
Royal British Legion – Cefnogwr y Pentref Cyn-filwyr
Aerodyne – Cefnogwr Sioe Awyr Cymru
Lidl – Cefnogwr Sioe Awyr Cymru
Radnor Hills – Cefnogi Hydradu Wirfoddolwyr
Day’s Rental – Partner Cerbydau