Bydd Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd i Fae Abertawe ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf ar gyfer penwythnos llawn cyffro yn yr awyr.
Byddwch yn barod am ddeuddydd o arddangosiadau awyr anhygoel, gan gynnwys Typhoon y Llu Awyr Brenhinol, Brwydr Prydain a Thîm Raven Abertawe. Bydd arddangosiadau newydd cyffrous fel Melanie Astles, y fenyw gyntaf i gymryd rhan yn Ras Awyr Red Bull, a hen ffefrynnau fel Red Arrows y Llu Awyr Brenhinol!

Yn ogystal â'r holl gyffro yn yr awyr, bydd ein harddangosiadau cyffrous ar y tir ar gael o 10am tan 6pm ar y ddau ddiwrnod. Byddant yn cynnwys popeth o efelychwyr y Red Arrows a'r Typhoon, cerddoriaeth fyw, ffair bleser a difyrion, cerbydau'r lluoedd arfog, hen gerbydau a llawer mwy. Yn newydd ar gyfer 2025, peidiwch â cholli tanc plymio'r Llynges Frenhinol! Bydd yr arddangosiadau ar y tir yn ymestyn o'r Ganolfan Ddinesig i Brynmill Lane ar hyd promenâd Abertawe ac Oystermouth Road. Bydd digon o fwyd a lluniaeth ar gael hefyd.

Cofiwch y gellir cadw lle ymlaen llaw mewn amrywiaeth o feysydd parcio a safle parcio a theithio hefyd, gan eich helpu i fwynhau Sioe Awyr Cymru i’r eithaf. Ewch ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o feysydd parcio a'r gwasanaeth parcio a theithio sydd ar gael, ac i gadw eich lle ymlaen llaw.
Os ydych yn gwneud trefniadau teithio, cofiwch y bydd ffyrdd ar gau ar hyd Oystermouth Road/Mumbles Road drwy gydol y penwythnos. Ewch ar-lein i ddod o hyd i wybodaeth lawn a mapiau er mwyn eich helpu i gynllunio eich ymweliad.
Os ydych yn dal i wneud trefniadau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, ewch ar-lein i weld rhagor o wybodaeth am deithio, cwestiynau cyffredin, gwybodaeth i rieni a llawer mwy.

Beth am brynu tocyn ar gyfer y Bwrdd Hedfan lle gallwch fod yn rhan o’r cyffro? Bydd golygfeydd godidog ac awyrgylch gwych! Mae pob tocyn ar gyfer dydd Sadwrn eisoes WEDI’I WERTHU ac mae rhai lleoedd ar gael o hyd ar gyfer dydd Sul, ond maen nhw’n gwerthu’n gyflym! Peidiwch â cholli’ch cyfle i fwynhau’r sioe mewn steil. Archebwch eich lle nawr i osgoi cael eich siomi!

Gallwch hefyd lawrlwytho ap swyddogol Sioe Awyr Cymru – eich rhaglen ddigidol ar gyfer y sioe. Gan gynnwys newyddion byw, disgrifiadau o'r arddangosiadau, cynigion, amserlen fyw a llawer mwy, dyma'r arweiniad gorau i Sioe Awyr Cymru ar flaenau eich bysedd.

Diolch i noddwyr, cefnogwyr a phartneriaid Sioe Awyr Cymru 2025
FRF Volvo – noddwr y Wing Walkers (noddwr arian) yn Sioe Awyr Cymru 2025
FRF Toyota – Noddwr Strapen Arddwrn Cadwch yn Ddiogel Sioe Awyr Cymru 2025
FRF Alfa Romeo - Noddwr Amserlen Sioe Awyr Cymru 2025
GWR – Partner Teithio Sioe Awyr Cymru 2025
First Bus – Partner Teithio Sioe Awyr Cymru 2025
Lidl – Noddwr Cefnogwyr Sioe Awyr Cymru 2025
Day’s Motorhomes – Partner Cerbydau
Radnor Hills – Cefnogi'r Cadetiaid Gwirfoddol
Tesco – Cefnogi'r Cadetiaid Gwirfoddol
