fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’n fis Mawrth, sy’n golygu ei bod hi’n Fis Hanes Menywod, felly gadewch i ni glywed am 10 o fenywod gorau Abertawe a’u cyflawniadau, sy’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.

Emily Phipps

Pennaeth ysgol uwchradd i ferched, ffeminydd ac ymgyrchydd ysbrydoledig a ymgyrchodd dros y bleidlais i fenywod a chyfleoedd cyfartal i ferched. Roedd Emily hefyd yn astudio’r gyfraith, a chafodd ei galw i’r bar ym 1925, gan adael Abertawe i deithio i Lundain lle parhaodd yn ei hymgyrch i wella addysg a statws menywod.

Ann Hatton

Roedd hi’n byw yn Abertawe’r Oes Sioraidd, lle daeth hi’n ysgrifennwr barddoniaeth a sawl nofel boblogaidd dan y ffugenw, ‘Ann of Swansea’.

Kate Bosse-Griffiths

Llwyddodd i ddianc yr Almaen Natsiaidd gan ymsefydlu yn Abertawe. Ar ôl meistroli’r Gymraeg, ysgrifennodd nifer o gerddi a straeon yn yr iaith. Fel curadur yr Amgueddfa Wellcome ym Mhrifysgol Abertawe, roedd Kate yn catalogio ac yn ymchwilio i arteffactau Eifftaidd.

Jessie Ace and Margaret Wright

Roeddent yn ferched i geidwad goleudy’r Mwmbwls, Abraham Ace, a pheryglon nhw eu bywydau’n arwrol wrth geisio achub aelodau criw’r bad achub lleol, Wolverhampton, a oedd yn cael trafferthion yn helpu’r bad, y Llyngesydd Priz Adalbert, yn ystod y Storm Fawr ar ddydd Sadwrn 27 Ionawr 1883.

Val Feld

Val oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i gael ei hanrhydeddu â phlac porffor. Gwnaeth hi sefydlu a chyfarwyddo Shelter Cymru o 1981 tan 1989. Aeth ymlaen i gynrychioli Dwyrain Abertawe yng Nghynulliad Cymru ac mae hefyd wedi gweithio gyda Chomisiwn Cyfleoedd Cyfartal Cymru i hyrwyddo hawliau menywod a grwpiau lleiafrif.

Amy Dillwyn

Cafodd ei geni i un o deuluoedd diwydiannol Abertawe Fictoraidd, ac etifeddodd Amy Waith Speltio Llansamlet. Roedd y cwmni mewn dyledion, a llwyddodd Amy i’w rheoli ei hun a chreu elw yn y pen draw. Roedd hi’n ecsentrig, yn byw’n gynnil ac fe’i gwelwyd yn aml yn gwisgo dillad i ddynion ac yn smygu sigâr. Oherwydd ei bod hi’n pryderu am y tlawd, dechreuodd Amy ymwneud â gwleidyddiaeth leol. Er gwaethaf hyn, llwyddodd i ddod o hyd i amser i ysgrifennu, ac ysgrifennodd sawl nofel gan gynnwys The Rebecca Rioter a Story of Killay Life.

Jessie Donaldson

Ganed Jessie Donaldson yn Abertawe, ac roedd hi’n ymgyrchydd gwrthgaethwasiaeth a deithiodd i Cincinnati ym 1856 i agor tŷ diogel i gaethweision ar ffo, gan roi ei hun mewn perygl o dderbyn dirwyon personol a mynd i’r carchar.

Audrey Williams

Athrawes ac archeolegydd proffesiynol a gloddiodd safleoedd hanesyddol enwog ar draws y DU. Yn ystod ei gyrfa, daeth Audrey Williams yn rhan mawr o waith Amgueddfa Abertawe, gan arwain at ei phenodiad fel llywydd benywaidd cyntaf Athrofa Frenhinol De Cymru. Gweithiodd ar safle’r Deml Mithras gyda’i chydweithiwr, yr Athro William Grimes. Fodd bynnag, nid yw’r safle’n dangos ei henw, dim ond ei enw ef.

Morfydd Owen

Cyfansoddwr, pianydd a mezzo-soprano o Gymru a fu farw cyn pryd dan amgylchiadau rhyfedd yn ystod arhosiad yn y Mwmbwls. A hithau eisoes yn aelod o Orsedd y Beirdd, un o’r anrhydeddau mwyaf y gellir ei rhoi i gerddor yng Nghymru, roedd gan Morfydd Owen a’i cherddoriaeth ddyfodol addawol, ond bu farw cyn pryd ar ei gwyliau yn y Mwmbwls. Ni lwyddodd i wella yn dilyn salwch sydyn a llawdriniaeth frys. Mae’n gadael etifeddiaeth o oddeutu 250 o sgorau, a gyfansoddwyd yn ystod ei gyrfa fer 10 mlynedd o gyfansoddi cerddoriaeth swynol.

Dyma 10 yn unig o’r menywod rhagorol sydd wedi helpu i lywio Abertawe. Pwy hoffech chi ei weld ar y rhestr? Rhowch wybod i ni ar Twitter @JoioAbertawe.