fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae athletwr rhyngwladol a enillodd ddigwyddiad mawr yn Abertawe y llynedd wedi siarad am sut mae chwaraeon wedi’i helpu ar ôl iddo gael anafiadau a newidiodd ei fywyd mewn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd.

Dywedodd Darren Williams ei fod yn gobeithio dychwelyd i Abertawe ar gyfer Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe eleni mewn ymdrech i gadw ei goron ar gyfer y ras Super Paratri.

Roedd Darren, 35 oed o Aberteifi, yn teithio ar gefn beic modur ym mis Ebrill 2014 pan fuodd e’n rhan o wrthdrawiad traffig ar y ffordd ger Gwbert.

Treuliodd Williams yr 11 mis nesaf yn yr ysbyty, yn gwella ar ôl y gwrthdrawiad lle bu’n rhaid iddo gael ei awyrgludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

“Roedd gen i restr o anafiadau, ond yr anaf i linyn asgwrn y cefn oedd y prif anaf,” meddai William. “Roedd yn anodd iawn i fi oherwydd roedd fy merch newydd gael ei geni. Roedd fy mhartner yn arfer dod â Leila (ei ferch) i ymweld â fi, a byddwn i’n ei bwydo hi yn fy ngwely yn yr ysbyty, a byddai’r holl nyrsys yn casglu at ei gilydd i’n gweld ni oherwydd doedden nhw heb arfer â gweld babi newydd-anedig ar y ward.

“Er ei fod yn gyfnod anodd iawn, ar yr un pryd roedd yn ysgogol iawn i fi fod gennyf blentyn newydd-anedig, ac roedd hynny wedi fy helpu i oroesi’r 11 mis hynny. Briciwr oeddwn i, roeddwn i’n berson heini iawn, ac fel y digwyddodd, tua mis ar ôl i fi fynd i mewn i’r ysbyty cafodd Owen Williams, chwaraewr rygbi Cymru a’r Cardiff Blues ei dderbyn i’r ysbyty.

“Roeddem mewn gwelyau gyferbyn â’n gilydd, felly roedd hynny’n wych achos byddai tîm rygbi Cymru yn aml yn dod i ymweld ag Owen, a des i i adnabod pawb yn nhîm Cymru, tîm Caerdydd ac roedd hynny’n help mawr. Roedd hynny wir wedi fy ysbrydoli i gadw i fynd.”

Cyflwynwyd Williams i ddigwyddiadau paradreiathlon gan ffrind, a chymerodd ran yn ei ddigwyddiad nofio, beicio, rhedeg cyntaf ym mis Mai 2017.

Ar ôl treulio 18 mis heb wneud chwaraeon oherwydd ei lawdriniaeth a genedigaeth ei ail blentyn, mae William bellach yn cystadlu yng Nghyfres Super Paratri Treiathlon Prydain, sy’n agored i baradreiathletwyr dosbarthedig ac annosbarthedig.

“Rwy’n treulio llawer o amser yn cymryd rhan mewn treiathlonau i’r rheini sy’n abl yn gorfforol,” meddai William. “Nawr rwy’n rasio yn y gyfres Super Paratri ac rwy wir yn mwynhau hynny, rwy’n dwlu ar fod yn rhan ohoni. Mae athletwyr arbennig o dda yn cymryd rhan yn y categori cadair olwyn.

“Dwi wedi cwrdd â chynifer o bobl o gefndiroedd gwahanol, ac wedi clywed cynifer o straeon gwahanol, ond mae pawb sy’n cymryd rhan yn gwneud eu gorau glas. Roeddwn i’n gwybod yn syth na fyddai’n bosib i fi chwarae pêl-droed eto, ond mae bod yn rhan o’r digwyddiad yn golygu fy mod i’n cael yr un gwmnïaeth ag yr oeddwn yn yr ystafell newid pêl-droed, ac rwy’n falch o hynny.”

Darren Williams racing

2022 oedd ei dymor mwyaf llwyddiannus hyd yma, ar ôl iddo ennill categori dynion y PTWC yng Nghyfres ‘Paratri Super’ Treiathlon Prydain yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd gyntaf Abertawe, lle’r oedd miliynau o wylwyr yn bresennol i gefnogi paradreiathletwyr gorau’r byd yn y ddinas.

Cynhelir digwyddiad eleni wythnos cyn iddo briodi, ychydig filltiroedd o lwybr y ras, ac mae William yn edrych ymlaen at sefyll wrth y llinell gychwyn pan fydd y digwyddiad yn dychwelyd ar 15 Gorffennaf.

“I fi, dyna fy hoff ddiwrnod o’r treiathlon,” meddai Williams. “Roedd y ffaith bod y ras yn cael ei chynnal yn Abertawe’n bwysig i fi. Roedd hi’n wych, ac rwy’n gwenu nawr yn meddwl amdani oherwydd roedd cymryd rhan mewn ras felly yn fy milltir sgwâr ac yna gwylio’r ras Cyfres Para yn wych.

“Roeddwn i wir wedi mwynhau, ac rwy’n gyffrous iawn am eleni, yn enwedig gan fod digwyddiad o’r math hwn yn digwydd yn Abertawe eto. Y diwrnod canlynol cynhaliwyd hanner marathon IRONMAN Abertawe, felly roedd awyrgylch arbennig o dda yn Abertawe y penwythnos hwnnw.

“Rwy’n brysur iawn eleni gyda’r digwyddiad yn Abertawe ar 15 Gorffennaf, wedyn dwi’n priodi’r wythnos ganlynol ym mhenrhyn Gŵyr, ond dwi bendant ddim eisiau colli’r digwyddiad yn Abertawe.

Mae William yn gobeithio cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2026 – os yw ei ddosbarthiad yn cael ei gynnwys yn y rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer y digwyddiad amlchwaraeon yn Victoria, Awstralia – ac mae’n falch o allu chwifio baner Cymru mewn digwyddiadau o amgylch y DU, gan gynnwys yn Abertawe.

“Rydw i wir yn dwlu ar Gymru” meddai Williams. “Rwy’n falch o fod yn Gymro. Yr hyn rwy’n ei charu am Gymru yw ein bod ni’n wlad angerddol iawn, mae gennym ymdeimlad mawr o falchder cenedlaethol. Ein hanthem genedlaethol yw un o’r anthemau gorau yn y byd a dydw i ddim yn dweud hynny oherwydd fy mod i’n Gymro – rwy’ wedi clywed llawer o bobl yn dweud yr un peth. Mae’n rhoi ias i fi bob tro.

“Mae Caerdydd yn wych, mae Abertawe’n ddinas arbennig ac mae gennym draethau hyfryd a lleoedd gwych i ymweld â nhw, ond pe bai’n rhaid i fi ddewis y peth rwy’n ei hoffi mwyaf, byddai’n rhaid i fi ddewis y traethau.”

Mae Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe yn dychwelyd i dde Cymru ar 15 Gorffennaf, lle bydd glannau eang Bae Abertawe unwaith eto’n darparu lleoliad gwych ar gyfer gweithgarwch chwaraeon elît y penwythnos ac i wylwyr.