fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd Gŵyl Croeso’n codi hwyliau pawb yng nghanol y ddinas gyda’i rhaglen o adloniant amrywiol.

Bydd Gŵyl Croeso Abertawe sy’n dathlu diwylliant Cymru, yn dod â chyffro i ganol y ddinas pan fydd yn dychwelyd ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Chwefror.

Trefnir y digwyddiad am ddim gan Gyngor Abertawe.

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwn yn Abertawe. Mae’n gyfle gwych i arddangos ein bwydydd a diodydd blasus a denu pobl newydd i ganol y ddinas i weld y pen-cogyddion wrthi’n coginio a phrofi rhywbeth newydd yn Abertawe.”
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth,

Gall unrhyw ymwelwyr â Gŵyl Croeso, a gynhelir bob dydd rhwng 11am a 4pm, ddisgwyl rhaglen gyffrous o adloniant ac arddangosiadau coginio a fydd yn codi chwant bwyd arnoch. Hefyd, mae’r digwyddiad am ddim, felly gallwch fynd am dro o gwmpas y lleoliadau yng nghanol y ddinas a dewis beth bynnag rydych chi’n ei hoffi.

Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.

Joio pen-cogyddion enwog a blasau cryf

Mae bwyd a diod yn ganolog i ŵyl Croeso. Cerddwch o amgylch y stondinau ac fe ddewch o hyd i’r cynnyrch lleol gorau gan fasnachwyr Cymreig, gan gynnwys halen môr Halen Môn, cynnyrch llaeth organig Calon Wen a mêl Kilvey Honey.

Fodd bynnag, os oes angen ysbrydoliaeth goginiol arnoch, mae’n rhaid i chi wylio’r arddangosiadau coginio gan rai o ben-cogyddion a chogyddion cartref gorau’r DU, sy’n siŵr o godi awydd arnoch i goginio!

Mae’r actor, y canwr a’r awdur John Partridge yn fwyaf adnabyddus am chwarae rôl y cymeriad hynod boblogaidd Christian Clarke yn EastEnders ar y BBC. Ond, yn 2018 enillodd deitl Celebrity Masterchef ar ôl iddo arddangos ei ddoniau yn y gegin. Bydd John yn coginio’i rysáit ar gyfer pelenni cig oen Cymreig hynod flasus am 3pm ddydd Sadwrn.

Mae Hywel Griffith wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus yn gweithio yn rhai o fwytai gorau’r DU. Mae bellach yn ben-cogydd ac yn gyfarwyddwr y Beach House yn Oxwich, sydd wedi ennill seren Michelin. Bydd arddangosiad Hywel am 11am ddydd Sadwrn.

Mae Nathan Davies, pen-cogydd SY23 yn Aberystwyth, wedi cynrychioli Cymru yn rhaglen Great British Menu y BBC. Mae ei arddull wrth goginio’n cael ei harwain gan fwydydd tymhorol gyda phwyslais ar flasau cryf. Mae arddangosiad coginio Nathan am 12pm ddydd Gwener

Mae dawn ac angerdd Jack Stein, mab Rick Stein, am goginio yn ei waed. Mae Jack wedi gweithio fel pen-cogydd mewn bwytai ar draws y byd, gan gynnwys La Régalade ym Mharis, ac mae bellach yn ben-cogydd ac yn gyfarwyddwr Rick Stein Restaurants. Bydd Jack, y mae ei wyneb yn gyfarwydd ar y teledu am ei fod wedi ymddangos ar Saturday Kitchen y BBC a Sunday Brunch ar Channel 4, yn coginio am 1pm ddydd Gwener.

Tyfodd Kwoklyn Wan i fyny yn helpu ei rieni yn y bwyty teuluol, The Panda, drwy blicio corgimychiaid neu dorri llysiau o oedran ifanc. Mae bellach yn awdur poblogaidd, yn ben-cogydd ar y teledu, yn arbenigwr crefft ymladd ac yn gyflwynydd. Lansiodd Kwoklyn ei gyfres ei hun ar Amazon Prime yn ddiweddar, sef Kwoklyn’s Chinese Takeaway Kitchen, a bydd yn goginio yng ngŵyl Croeso am 1pm ddydd Sadwrn.

Bydd Siân Day (My Kitchen Rules), Anand George (Purple Poppadom), Stewart Williams (Castell Howell), Matt Waldron (Stackpole Inn / Gordon Ramsay:Unchartered Showdown) a Katie Davies (Britain’s Best Home Cook) yn cwblhau’r rhestr o bobl a fydd yn rhoi arddangosiadau coginio.

Noddir arddangosiadau coginio Croeso gan Castell Howell.

Joio cerddoriaeth fyw ac adloniant

Mae mwy i ŵyl Croeso na bwyd a diod yn unig, gwrandewch ar seiniau cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol yn Sgwâr y Castell – mae’r rhestr berfformio’n cynnwys Eleri Angharad, Asha Jane, Dafydd Hedd, Tom Emlyn a Llyffant. A bydd mwy o gerddoriaeth fyw gyda’r hwyr fel rhan o Nosweithiau Cerdd Croeso.

Wrth grwydro o amgylch yr ŵyl cewch hyd i ddigon i ddiddanu’r plant, o gemau difyr Roly Poly i weithgareddau celf a chrefft Annibendod. Bydd menywod Cymreig a chwaraewyr rygbi sy’n cerdded ar ystudfachau, dawnswyr, a diddanwyr stryd i gyd yn ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl.

Ymunwch â Menter Iaith Abertawe ym Mhabell Cwtsh lle gallwch ddysgu mwy am gyfleoedd i fwynhau’r Gymraeg yn Abertawe, pori drwy ddetholiad o roddion a llyfrau Siop Tŷ Tawe a chael cyfle i gwrdd â Mr Urdd a Magi Ann. Bydd Cymraeg i Blant yn cynnig sesiynau Stori a Chân hefyd. Mae croeso mawr i bawb – p’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn dysgu’r iaith, neu’n chwilfrydig!

Joio llwybrau trysor a chystadlaethau i ennill gwobrau

Dilynwch lwybr Dewi Sant, ein llwybr trysor ar thema Cymru a fydd yn mynd â chi i rai o dirnodau ac atyniadau poblogaidd canol y ddinas. Dewch o hyd i’r wyth llun cudd sy’n ymwneud â Chymru i ennill bag rhoddion Croeso i chi’ch hun, a chewch eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill tocynnau ar gyfer gêm pêl-droed Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, tocyn teulu i Plantasia a thegan meddal.

Cofiwch ddod i stondin First Cymru – byddant yn rhoi gwerth dros £1,000 o wobrau, o basys bws blynyddol ar gyfer eu rhwydwaith De Cymru i docynnau dydd am ddim.

 

Diolch i’n noddwyr!

Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.