Dewch lawr i Abertawe ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Chwefror ar gyfer gŵyl Croeso – y dathliad Dydd Gŵyl Dewi gorau posib.
Bydd yr ŵyl Gymreig ddeuddydd yng nghanol y ddinas, rhwng 11am a 5pm, yn cynnwys llawer o arddangosiadau coginio a bydd Nathan Davies a Hywel Griffith o Great British Menu yn dangos i chi sut i greu eich profiad bwyta o safon gartref.
Bydd enillydd Celebrity Masterchef a seren Eastenders, John Partridge, yn gwneud defnydd da o gig oen Cymreig blasus i baratoi saig o belenni cig a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd.
Gallwch hefyd fwynhau cerddoriaeth fyw yng ngŵyl Croeso, gydag artistiaid o sîn gerddoriaeth indi Cymru yn camu i’r llwyfan yn Sgwâr y Castell, yn ogystal â gweithgareddau i’r teulu, bwyd a diod, diddanwyr stryd, llwybr helfa drysor i ennill gwobrau gwych, gorymdaith Dewi Sant, a digonedd o gyfleoedd i siarad Cymraeg.
Cyflwynir Croeso i chi gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â First Cymru gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.
Peidiwch â’i cholli, ewch â’r teulu a chymerwch ran – mae am ddim!
P’un a yw hynny’n cynnwys archwilio arddangosfeydd, pori drwy lyfrau neu fynd am dro ymysg y bywyd gwyllt – mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae rhai o’r gweithgareddau hanner tymor sydd ar gael yn cynnwys Llwybr Dirgel yr Amgueddfa Montgomery Kids in Museums sy’n rhedeg o ddydd Sadwrn 11 Chwefror tan ddydd Gwener 31 Mawrth – mae Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn a fydd yn cynnig y cyfle i brofi eich sgiliau ditectif, datrys posau, a chael hwyl.
Mae Amgueddfa Abertawe hefyd yn cynnig y cyfle i roi cynnig ar ei llwybr llygod a dod o hyd i’r 22 o lygod sydd wedi’u cuddio o amgylch y lleoliad – mae’n dipyn o her dod o hyd iddyn nhw i gyd!
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnal cyfres o weithdai galw heibio am ddim i deuluoedd yn ystod hanner tymor, gan gynnwys adeiladu set, paentio, pypedwaith ac animeiddio, mewn partneriaeth â Screen Alliance Wales, Bad Wolf ac IJPR Media.
Gallwch hefyd ‘helpu i achub Lyra!’ a chodi copi o daflen llwybr i deuluoedd newydd ‘His Dark Materials’ a fydd yn eich tywys o amgylch yr orielau yn ystod eich ymweliad.
Mae 17 o lyfrgelloedd gwych Abertawe hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau llawn hwyl gan gynnwys crefftau’r gwanwyn, helfa drysor a’r cyfle i greu melinau gwynt ar thema chwilod.
I gael rhagor o wybodaeth am ein holl lwybrau, ewch i: Llwybrau Bae Abertawe
Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd ym mis Chwefror? Mae gennym Ioga, Pilates, Zumba, T’ai Chi, sgiliau bwrdd a llawer mwy ar gael dros yr wythnosau nesaf, felly cadwch le! Cynhelir y gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, dewch â ffrind neu ewch ar eich pen eich hun – p’un a ydych chi’n newydd i’r gweithgaredd neu beidio, dewch i gymryd rhan!