fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Hwyl hanner tymor yn ein lleoliadau diwylliannol

Canolfan Dylan Thomas

Gweithgareddau Hunanarweiniedig
11, 12, 15, 17, 19, 22, 25 a 26 Chwefror

Byddwch yn barod i ddatrys problemau ac archwilio’n hamrywiaeth o weithgareddau hunanarweinedig wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa ‘Dylan Thomas – Yn Fyw yn y YMCA’, a llwybr arddangosfa Montgomery BonBon. Bydd gweithgareddau’n cynnwys datrys codau, gwneud theatr fach a chreu eich cymeriadau ffelt eich hun!
Am ddim.
Galwch heibio rhwng 10am a 4pm

Gweithdy i’r Teulu: Gwisgoedd Gwych a Chuddwisgoedd Creadigol
Dydd Gwener 24 Chwefror 2023

Galwch heibio rhwng 1.00pm a 4.00pm
Ymunwch â ni am weithdy difyr, am ddim gan ein rhaglen arobryn i deuluoedd! Gallwch greu gwisg neu guddwisg wedi’u hysbrydoli gan wisgoedd theatraidd o ddyddiau actio Dylan yn y YMCA, a’n llwybr diweddaraf ‘Montgomery Bonbon: Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa’.
Galw heibio, am ddim.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Amgueddfa Abertawe

Mae Amgueddfa Abertawe hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiad Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa: Montgomery Bonbon ‘Kids in Museums’ o ddydd Sadwrn 11 Chwefror i ddydd Gwener 31 Mawrth yn ogystal â chynnig y cyfle i roi cynnig ar ei llwybr llygod a dod o hyd i’r 22 o lygod sydd wedi’u cuddio o amgylch y lleoliad – mae’n dipyn o her i ddod o hyd iddyn nhw i gyd.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Cymerwch gip ar yr arddangosfeydd diweddaraf yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe’r mis hwn wrth iddynt gyflwyno cipolwg y tu ôl i’r llenni ar gyfres deledu arobryn y BBC a HBO, His Dark Materials, a wnaed yng Nghymru gan y cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, Bad Wolf. Mae’r gyfres yn seiliedig ar y drioleg o lyfrau arobryn gan Philip Pullman, ac mae’r drydedd gyfres, y gyfres olaf, ar gael ar y BBC ac iPlayer nawr.

Am y tro cyntaf yn yr arddangosfa fawr hon, Creu Bydoedd yng Nghymru, gall ymwelwyr weld gwisgoedd, celf cysyniad, fideos effeithiau gweledol, propiau a mwy o’r tri thymor. Mae His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru yn parhau yn yr Oriel tan 23 Ebrill 2023.

Dewch i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai galw heibio am ddim i’r holl deulu yn ystod hanner tymor mis Chwefror a fydd yn cynnwys adeiladu set, paentio, pypedwaith ac animeiddio, mewn partneriaeth â Screen Alliance Wales, Bad Wolf ac IJPR Media. Gallwch hefyd helpu i achub Lyra a chasglu taflen llwybr ‘His Dark Materials’ i deuluoedd i’ch tywys o amgylch yr orielau yn ystod eich ymweliad.

Bydd arddangosfa boblogaidd Abertawe Agored hefyd yn agor y mis hwn, gyda detholiad o dros 250 o gelfweithiau gan artistiaid proffesiynol ac amhroffesiynol, sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe. Mae’r gystadleuaeth gelf flynyddol hon yn ddathliad o bob math o gelf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr o’r ddinas, ac mae’n cynnwys ceisiadau gan fyfyrwyr, artistiaid lleol sefydledig ac amaturiaid – o bob oedran a chefndir!

Llyfrgelloedd

Canolog

• Stori a Chrefftau Pwylaidd: Dydd Iau 23 Chwefror 2pm-3pm.
• Stori a Chrefft: Dydd Sadwrn 25 Chwefror 2pm-3pm.
• Amser Rhigwm: Dydd Iau 10.30am – 11.00am.
• Amser Rhigwm: Dydd Mawrth 21 Chwefror 2.00pm – 2.30pm.
• Paentio i’r Teulu gyda The Paint Along Lady : Dydd Mercher 22 Chwefror 1.30pm – 3.30pm. 5+ oed. Rhaid cadw lle.

Ystumllwynarth
• Ysgrifennu creadigol gyda Chanolfan Dylan Thomas a’r awdures Emily Vanderploeg: Dydd Gwener 21 Chwefror 2pm-4pm. Mae’n rhaid cadw lle.
• Crefftau’r Gwanwyn: Dydd Iau 23 Chwefror, 3.30pm. Mae’n rhaid cadw lle, ffoniwch 01792 368380.

Tre-gŵyr
• Ysgrifennu creadigol gyda Chanolfan Dylan Thomas a’r awdures Emily Vanderploeg, 21 Chwefror 10am – 12pm. Mae’n rhaid cadw lle.

 

 

Clydach

• 22 Chwefror Diwrnod Pokémon
• 22 Chwefror Traed Prysur: 2.30pm

Fforest-fach

• Dydd Mercher 22 Chwefror am 2.30pm ‘Y Fuwch Goch Gota a’i Geiriau Cynta’ a chreu melin wynt pryfed.

Treforys

• Stori a chrefft, ddydd Gwener 24 Chwefror, 11am – 12pm

Llansamlet

• Hanner Tymor – Stori a chrefft ‘Monster Mayhem’ ddydd Mawrth 21 Chwefror. Stori i blant dan 5 oed am 10.30am a stori i blant dros 5 oed am 3.30pm.

• Mae crefftau/lliwio ar gael drwy’r dydd. Bydd gemau a Lego ar gael drwy’r hanner tymor.

Sgeti

• Amser stori a chrefft Y Lindysyn Llwglyd Iawn: Dydd Llun 20 Chwefror am 11am. 3+ oed. Mae’n rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 202024.

Pontarddulais

• Amser Stori a Chrefft: Dydd Mawrth 21 Chwefror, 2.00pm – 3.30pm. Plant 5-8 oed.
Rhaid cadw lle

• Clwb Cymdeithasol Nintendo Switch – Twrnamaint Mario Kart 8: Dydd Sadwrn 25 Chwefror 10.30am – 12.30pm. Rhoddir gwobrau. Plant 6-14 oed. Rhaid cadw lle

Townhill

• Cwis, crefftau a helfa drysor Dydd Gŵyl Dewi: Dydd Iau 23 Chwefror 2.30pm – 3.30pm.

• Mae cwisiau a helfeydd trysor ar gael drwy’r wythnos!

Pen-lan

• Stori a sesiwn grefftau: Dydd Mercher 22 Chwefror sesiwn galw heibio ar gyfer straeon, drwy’r dydd am 10am, 12pm, 2pm a 4pm.