fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth dîm Joio Bae Abertawe!

Rydym yn gyffrous iawn am y digwyddiadau anhygoel y byddwn yn eu cyflwyno yn 2023! Mae gennym ddigwyddiadau tymhorol, digwyddiadau chwaraeon, cyngherddau yn ogystal â’n lleoliadau diwylliannol ac atyniadau awyr agored sy’n barod i’ch croesawu gyda hwyl a dysgu.

Does dim angen iddo fod yn aeaf noethlwm y mis Ionawr hwn, mae digon o bethau’n digwydd yn Abertawe dros y mis sy’n dod, darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth…

Roedd 2022 yn flwyddyn i’w mwynhau!

Roedd y llynedd yn llawn digwyddiadau a gweithgareddau ym Mae Abertawe. Dechreuodd y flwyddyn gyda gŵyl Croeso Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol y ddinas ac fe ddaeth i ben gyda Gorymdaith y Nadolig arbennig. Croesawom Gyfres Para Treiathlon y Byd ac IRONMAN 70.3, cynhaliwyd 3 cyngerdd enfawr ym Mharc Singleton ac roedd 3000 o redwyr wedi cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Roedd ein lleoliadau wedi croesawu miloedd o ymwelwyr ac roedd preswylwyr wedi  gwneud yn fawr o’r haf sych yn ein hatyniadau awyr agored.

Gwyliwch ein fideo i gael cip yn ôl ar flwyddyn hyfryd yn Abertawe.

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Gydag ychydig o ddyddiau i fynd nes bydd yr ysgolion yn ailgychwyn, beth ym fynd i Wledd y Gaeaf ar y Glannau lle bydd y goleuadau lliwgar, y gerddoriaeth parti a’r reidiau cyffrous yn rhoi hwb i’r holl deulu ar ôl y Nadolig.

Ewch ar yr Olwyn Fawr i gael golygfeydd godidog o’r ddinas, rhowch gynnig ar ennill tegan meddal enfawr, dewch i flasu’r selsig Almaenaidd neu dostio malws melys. Mae gennych tan ddydd Sul 8 Ionawr i wisgo’ch esgidiau sglefrio ac ymarfer llithro ar y llyn iâ.

 

 

Beauty and the Beast

Mae pantomeim Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma ac mae’r set ddigidol newydd yn werth ei gweld! Mae’n llawn jôcs, gwisgoedd anhygoel a’r gwiriondeb arferol, ac mae hoff hen wraig Abertawe a derbynnydd diweddar Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas – Kevin Johns, yn serennu ynddo. Cynhelir perfformiadau o’r pantomeim tan ddydd Sul 15 Ionawr ac os nad ydych chi wedi’i weld eto, neu os ydych chi’n ffansïo mynd eto, gallwch brynu tocynnau yma.

 

 

 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Dewch i fod yn rhan o fyd hudol Disney’s Fantasia in concert live to film! Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am gyngerdd brynhawn unigryw a chlyd yn Neuadd hardd Brangwyn ddydd Sadwrn 14 Ionawr am 3pm. Gyda sgriniau mawr yn dangos clipiau o Fantasia Disney (1940) a Fantasia 2000… yn ogystal â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio’r gerddoriaeth yn FYW! Dyma’r gyngerdd berffaith i bobl o bob oedran. Hudol! Archebwch eich tocynnau nawr!

 

 

 

 

#RhowchGynnigArEinLlwybrau

Pa adeg well na’r flwyddyn newydd i ddechrau ar daith newydd a darganfod rhai o’r llwybrau niferus am ddim sydd ar gael yn Abertawe?

P’un a ydych am fynd ar daith ddiwylliannol o gwmpas amgueddfeydd a lleoliadau celf y ddinas neu wisgo’ch esgidiau cerdded i weld golygfeydd godidog wrth fynd am dro, mae rhywbeth at ddant pawb. #RhowchGynnigArEinLlwybrau

 

 

 

 

Gwobrau Chwaraeon Abertawe

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure bellach ar gau ac mae’r rhestrau byr yn cael eu llunio. Cynhelir y gwobrau nos Iau 30 Mawrth 2023, yn Neuadd Brangwyn, gan anrhydeddu’r bobl a’r clybiau sydd wedi rhoi eu hamser a’u hymroddiad yn hael i chwaraeon yn Abertawe.

Dyma fydd y seremoni gyntaf i’w chynnal ers 2022 ac mae’n ymddangos y bydd yn un arbennig. Bydd tocynnau ar gyfer y gwobrau ar werth yn fuan, cadwch lygad ar ein cyfrifon cymdeithasol am gyhoeddiad.

 

 

Blwyddyn Newydd! Pennod Newydd!

Ydych chi erioed wedi ystyried rhoi cynnig ar ras 10k Bae Abertawe Admiral ond ddim yn siŵr eich bod yn gallu ei chwblhau? Beth am ‘Roi Cynnig Arni’ eleni?

Dyma’r ras 10k berffaith i ddechreuwyr oherwydd mae’r llwybr yn wastad, mae’r golygfeydd yn hyfryd ac mae’r gefnogaeth gan y gwylwyr o’r radd flaenaf. Bydd medal yn aros i chi ar y diwedd, crys-t i chi ei gadw a byddwch yn teimlo’n anhygoel pan fyddwch yn croesi’r llinell derfyn.

Pam oedi? Cofrestrwch heddiw ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich cefnogi ar hyd y daith i’r llinell derfyn. Mae’r cynnig cynnar ar gyfer ffi gofrestru ratach yn dod i ben am ganol nos, nos Sul 8 Ionawr, brysiwch!