fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Nadolig Llawen oddi wrth bawb yn nhîm Joio Bae Abertawe! Mae rhan fawr o’n hwyl yr ŵyl yn cynnwys canllaw digwyddiadau ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig, yn arbennig i chi!

Darllenwch am yr hwyl yr ŵyl sydd ar gael o amgylch Abertawe cyn i’r diwrnod mawr gyrraedd! Mae digon o bethau i’w mwynhau yn ystod y cyfnod cyn Dydd Nadolig!

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Ni fyddai’n dymor y Nadolig heb ddiwrnod allan llawn hwyl! Beth am fynd i Barc yr Amgueddfa sydd wedi cael ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe? Mae rhywbeth i bawb!

Gallwch fwynhau danteithion gaeafol – siocled poeth, tostio malws melys yn y Pentref Alpaidd, canu i gerddoriaeth fyw neu gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau! Gallwch hefyd fynd i’r llyn iâ i fwynhau hwyl yr ŵyl ac yna mynd ar yr Olwyn Fawr i fwynhau’r golygfeydd.

Aeth Jo Joio ar daith i Wledd y Gaeaf ar y Glannau’n ddiweddar!

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch fwynhau Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn ystod y Nadolig yma

Prynu tocynnau sglefrio iâ

Marchnad y Nadolig

Rydym wedi dechrau cyfri’r dyddiau tan y Nadolig, ond mae amser o hyd i brynu anrhegion munud olaf!

Bydd Marchnad y Nadolig yn dal i fod ar agor tan 5pm ddydd Mercher 21 Rhagfyr. Ac mae Marchnad Abertawe ar agor bob dydd tan 4pm ar Noswyl Nadolig. Ar gyfer y rheini sy’n dihuno’n gynnar, bydd yn agor am 7am ddydd Iau yr 22ain, dydd Gwener y 23ain a noswyl Nadolig felly mae hyd yn oed mwy o amser i brynu’r holl drimins ar gyfer cinio Nadolig Blasus!

Archwilio Marchnad y Nadolig

 

 

Nadolig yn y Cwadrant

Beth am wneud ychydig o siopa Nadolig a dod o hyd i’r anrheg berffaith ar gyfer rhywun arbennig eleni? O gynnyrch harddwch hanfodol i anrhegion ystyrlon i lenwi hosanau Nadolig, a llyfrau hynod boblogaidd i bersawr hudolus, gallwn sicrhau y byddwch yn dod o hyd i’r anrheg berffaith yn y Cwadrant y Nadolig hwn.

Y Cwadrant yng nghanol y ddinas, sy’n cynnwys dros 30 o siopau poblogaidd y stryd fawr yw’r lle perffaith i ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer pawb sydd ar eich rhestr anrhegion y Nadolig hwn. Hefyd, gallwch barcio TRWY’R DYDD am £2 pan fyddwch yn cyrraedd ar ôl 9.30am neu gallwch barcio am ddwy awr am £1!

Darganfyddwch y siopau yn y Cwadrant

 

Beauty and the Beast Grand Abertawe

Traddodiad tymhorol i nifer o bobl! Mae’r panto teuluol hudol hwn yn cynnwys yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer taith hudol i’r theatr, gyda hiwmor slapstic hynod ddoniol, digon o gynnwys y gynulleidfa a chaneuon gwych y byddwch yn eu canu am ddiwrnodau wedyn, a’r cyfan mewn un sioe hudol sy’n addas i bawb ei mwynhau, p’un a ydynt yn 3 neu’n 103 oed!

Y Nadolig yn ein lleoliadau diwylliannol

Ydych chi’n dwlu ar archwilio dros y Nadolig? Mae ein lleoliadau diwylliannol yn barod i ledaenu hwyl yr ŵyl gyda’u digwyddiadau difyr! Mae rhywbeth i gadw’r holl deulu’n brysur, o becynnau gweithgareddau i greu cardiau Nadolig, ewch ar-lein i baratoi ar gyfer y Nadolig a chofiwch gymryd cip ar yr oriau agor hefyd!

Darganfod mwy

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Beth sy’n digwydd y gaeaf hwn

Os ydych chi’n chwilio am ddigwyddiadau i deuluoedd, mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddigon o weithgareddau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Mae nosweithiau cwis, Llwybr yr Amgueddfa ar gyfer y gaeaf ac wrth gwrs, arddangosfeydd a sgyrsiau arbennig!

Cymerwch gip ar y rhaglen llawn hwyl yr ŵyl yma

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Os ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig iawn eleni ac yn adnabod rhywun ym maes chwaraeon, p’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, beth am ei enwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2023?

*Mae enwebiadau’n cau ar 31 Rhagfyr!

Rhagor o wybodaeth yma

BBC Now Disney’s Fantasia in concert

Dewch i fod yn rhan o fyd hudol ‘Disney’s Fantasia in concert live to film’! Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am gyngerdd brynhawn unigryw a chlyd yn Neuadd hardd Brangwyn ddydd Sadwrn 14 Ionawr am 3pm. Gyda sgriniau mawr yn dangos clipiau o Fantasia Disney (1940) a Fantasia 2000… yn ogystal â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio’r gerddoriaeth yn FYW! Dyma’r gyngerdd berffaith i bobl o bob oedran. Hudol!

Book tickets here

Ydych chi’n dal i chwilio am anrheg i rywun y Nadolig hwn?

Os ydych chi’n dal i chwilio am rywbeth ychwanegol i’w roi i’r rhedwr yn eich bywyd, yna beth am dalu i’w gofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral?

Cynhelir y ras ddydd Sul 17 Medi, mae’r llwybr yn wastad ac yn olygfaol gyda digonedd o gefnogaeth ar hyd y ffordd, gan ei gwneud hi’n ras berffaith i’r rheini sy’n rhedeg am y tro cyntaf yn ogystal â’r rheini sydd am gyflawni eu hamser gorau personol!

Darganfod mwy

Mae Canol y Ddinas yn llawn hwyl yr ŵyl gan fod dwy goeden Nadolig yno diolch i’r noddwyr John Pye Auctions ac Abertawe’n Gweithio.

*Cadwch lygad am ein hymgyrch Rhowch Gynnig ar ein Llwybrau’r mis nesaf, lle byddwn yn tynnu sylw at yr holl lwybrau am ddim gwych sydd gan Abertawe i’w cynnig!