fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r grŵp pop Prydeinig hynod boblogaidd, Madness, yn dod i Abertawe, gan gyhoeddi heddiw y byddant yn perfformio ym Mharc Singleton ar 21 Gorffennaf 2023.

Daeth Madness i’r amlwg o strydoedd cefn Camden Town ar ddiwedd y 70au ac yn ddiweddar rhyddhaodd y grŵp gyfres ddogfen wreiddiol tair rhan gyda sianel deledu AMC am ddechreuadau’r band. Mae Before We Was We: Madness by Madness, yn cofnodi twf un o fandiau mwyaf poblogaidd y diwylliant Prydeinig ac mae ar gael nawr ar alw ar BT TV.

Drwy gydol eu gyrfa, llwyddodd 10 o albymau Madness i gyrraedd deg uchaf y DU, ac mae 15 o’u senglau gorau, a gyrhaeddodd y pymtheg uchaf, wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys gwobr Ivor Novello fawreddog. Maent wedi perfformio ar do Palas Buckingham fel rhan o ddathliadau Jiwbilî’r Frenhines ac maent wedi gosod y record ar gyfer y gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer Darllediad Byw Nos Galan y BBC – y digwyddiad cerddoriaeth ar y teledu â’r nifer uchaf o wylwyr yn 2018.

 

Ar ôl 18 mis o fod yn segur, yn ystyried eu hopsiynau gyrfa (ynghyd â gwibdeithiau ar gyfer y gyfres ddogfen glodwiw ‘Before We Was We’ a’r ‘The Get Up!’ arbennig, mwy am hynny yn y man) bydd y Nutty Boys, o’r diwedd, yn mynd yn ôl i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – uno’r bobl ar gyfer dathliad byw, aflafar. A chyda set fyw yn llawn o ganeuon heb eu hail o’u gorffennol, mae Abertawe’n siŵr o gael noson allan wych yn lleoliad hyfryd Parc Singleton.

Bydd tocynnau ar werth ddydd Mercher, 16 Tachwedd 2023 am 10.00am.