fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae mis Tachwedd yma gan olygu ei bod hi’n amser ar  a dechrau tymor yr ŵyl!

Mae digon o ddathliadau’n digwydd ym mis Tachwedd 2022 yn Abertawe,  Gorymdaith y Nadolig, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Parciau Cefnogwyr, Marchnadoedd y Nadolig a mwy.

Felly darllenwch ymlaen i ddarganfod yr holl ffyrdd o Joio Abertawe’r mis Tachwedd hwn!

Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022

Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022 mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. Mae’r Gwobrau Chwaraeon yn ôl -Rydym yn falch o allu dathlu’n pencampwyr am y tro cyntaf ers 2020.

Mae ein hathletwyr wedi gweithio’n galed iawn eleni ac edrychwn ymlaen at gydnabod ac anrhydeddu eu cyflawniadau a’u cyfraniadau rhagorol i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe.

Rhagor o wybodaeth i ddod ar 14 Tachwedd!

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
8 Tachwedd i 8 Ionawr 2023, Mharc yr Amgueddfa

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n dychwelyd wrth i Barc yr Amgueddfa gael ei drawsnewid unwaith eto’n wlad hudol Nadoligaidd, gyda llyn iâ dan do, llwybr iâ awyr agored, ffair Nadoligaidd a phentref Alpaidd estynedig. Bydd pengwiniaid sglefrio ar gael i helpu sglefrwyr ifanc yn ogystal â sesiynau hygyrch gyda goleuadau sefydlog, lefelau sain is a llai o bobl, er mwyn sicrhau y gall pawb fwynhau hwyl yr ŵyl.

Yn newydd sbon ar gyfer 2022, gall myfyrwyr a theuluoedd brynu tocynnau pris arbennig, sy’n cynnig arbedion sylweddol ar eu profiad yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau.

Gorymdaith y Nadolig Abertawe
dydd Sul 20 Tachwedd, Canol y ddinas

Ymunwch â Siôn Corn ar gyfer ei orymdaith draddodiadol sy’n nodi dechrau tymor yr ŵyl.

Peidiwch â cholli Gorymdaith y Nadolig, a drefnir gan Gyngor Abertawe, nos Sul 20 Tachwedd Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Victoria Road am oddeutu 5pm, cyn iddi deithio drwy ganol y ddinas i Ffordd y Brenin.

Bydd awyrgylch carnifal go iawn sy’n llawn goleuni, cerddoriaeth a dawnsio, gyda pherfformwyr proffesiynol, grwpiau cymunedol lleol a hoff gymeriadau pawb o straeon tylwyth teg a ffilmiau – i chi eu joio!

Gorymdaith y Nadolig

Diolch, noddwyr!

Hoffem ddiolch yn fawr i gefnogwyr corfforaethol Gorymdaith y Nadolig Abertawe:

Nathanial Cars,

sy’n darparu cerbydau ar gyfer yr orymdaith, gan gynnwys y

Abertawe’n Gweithio,

sy’n helpu Trên Bach y Nadolig i godi stêm a noddwyr Coeden Nadolig Ffordd y Brenin.

First Cymru,

sy’n cefnogi taith ein grwpiau cerdded.

John Pye,

sy’n helpu i oleuo’n Coeden Nadolig yn Sgwâr y Castell.

Parc y Cefnogwyr Abertawe
20 Tachwedd i 18 Rhagfyr, Parc Singleton

Mae Parc y Cefnogwyr Abertawe’n dod i Barc Singleton am ddigwyddiad na welsoch mo’i debyg o’r blaen. Mae Gwobrau Chwaraeon Abertawe yn ôl!

O 20 Tachwedd i 18 Rhagfyr, byddwn yn darlledu Cwpan y Byd 2022 mewn pabell fawr wedi’i thwymo, gyda lle i 2,500 o bobl a naws anhygoel. Mae Parc y Cefnogwyr yn darparu cyfleusterau o safon mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel – perffaith ar gyfer dathlu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr fel ei gilydd!

Bydd cyflenwyr bwyd lleol blasus, diodydd o’u bar llawn stoc, cerddoriaeth fyw, DJ, croesawyr ar ddiwrnod y gêm, enwogion pêl-droed a llawer, llawer mwy.Mae mynediad AM DDIM ar sail y cyntaf i’r felin, ond mae archebion bwrdd ar gael i grwpiau – archebwch eich bwrdd ar-lein yma.

Mae’r cyfnod enwebu’n agor ar 7 Tachwedd, dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf!

Darganfod mwy

Marchnad y Nadolig
dydd Gwener 25 Tachwedd – 21 Rhagfyr, Canol Y ddinas

Bydd crefftwyr talentog, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd stryd blasus yn dychwelyd i ganol y ddinas i gynnig detholiad gwych o anrhegion unigryw, danteithion blasus ac addurniadau hardd. Eleni bydd rhaglen o adloniant Nadoligaidd wych hefyd i’ch helpu i ymuno yn hwyl yr ŵyl! Bydd y dathliadau’n dechrau ar 25 Tachwedd!

Darganfod mwy

Beauty and the Beast
yn Theatr y Grand 14 Rhagfyr tan 15 Ionawr 2023

Ymunwch â ni ar gyfer pantomeim gwych i deuluoedd Theatr y Grand Abertawe, Beauty and the Beast. Mae Beauty and the Beast yn siŵr o wneud i chi chwerthin, crio a chwympo mewn cariad â llu o gymeriadau doniol a blewog – felly archebwch eich tocynnau nawr cyn i’r petal olaf gwympo oddi ar y rhosyn!

Tocynnau Beauty and the Beast

Dathliadau’r Nadolig – Swingin’ Christmas
dydd Mercher 14 Rhagfyr, Brangwyn

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Andrew Cottee arweinydd
Kerry Ellis cantores
Matthew Ford  canwr

Gwisgwch eich siwmperi a’ch hetiau Nadolig a dewch i Neuadd Brangwyn am noson arbennig o gerddoriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. O 7.30pm!

Gyda chlasuron fel Santa Claus is Coming to Town, It’s the Most Wonderful Time of the Year a Sleigh Ride i enwi ond ychydig, a’r cyfan yn cynnwys elfen o jazz a swing, bydd y gyngerdd Nadoligaidd arbennig hon sy’n berffaith i’r teulu cyfan yn siŵr o wneud i chi ymuno yn hwyl yr ŵyl.

Tocynnau

Canolfan Siopa’r Cwadrant

Paratowch ar gyfer y Nadolig eleni gyda’r Cwadrant sydd yng nghanol y ddinas! Gyda digonedd o siopau i ddewis ohonynt, gallwch brynu’ch holl anrhegion Nadolig yn barod cyn cyfnod prysur y Nadolig. Gallwch siopa am emwaith tlws yn Pandora, esgidiau newydd yn Schuh, colur yn Boots a Superdrug a hyd yn oed ddanteithion melys i’w mwynhau ar ddiwedd diwrnod prysur o Krispy Kreme! Darganfyddwch ragor am ein siopau heddiw

Darganfod mwy

Dathlwch dymor y Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe

Gyda llwybr gaeaf mawr yr amgueddfa, Marchnad Nadolig Nwyddau Ddoe, celf a chrefft a hyd yn oed noson gwis, bydd digon o hwyl i’r teulu cyfan. A chofiwch yr arddangosfeydd diddorol sydd ar gael i’w gweld dros gyfnod y Nadolig hefyd. Archwiliwch yr amgueddfa heddiw.

Archwilio heddiw