fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae rhagolygon tywydd gwael yn Abertawe ar 5 Tachwedd wedi gorfodi Cyngor Abertawe i ganslo’i arddangosfa tân gwyllt flynyddol.

Mae rhagolygon tywydd yn dangos y bydd glaw a gwyntoedd cryfion ar y noson y bwriadwyd lansio’r tân gwyllt o fad yn y bae – ac oherwydd hyn, bu’n rhaid i’r cyngor wneud y penderfyniad ar sail diogelwch.

Ymchwiliwyd i leoliadau a dyddiadau amgen ond, yn anffodus, bu’n rhaid eu diystyru.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn siomedig iawn bod yn rhaid i ni ganslo’r arddangosfa tân gwyllt oherwydd tywydd garw. Fel miloedd o breswylwyr eraill, roeddem yn edrych ymlaen at ddigwyddiad mor arbennig.

“Fodd bynnag, diogelwch oedd ein prif ystyriaeth, ac mae’r rhagolygon tywydd ar gyfer yr ychydig ddiwrnodau nesaf yn rhagfynegi gwyntoedd cryfion a glaw.

“Rydym wedi aros mor hir â phosib i wneud y penderfyniad hwn gyda’r gobaith y byddai’r rhagolygon yn newid, ond mae’n debygol iawn y bydd tywydd garw ac o ganlyniad, mae’n rhaid i ni ganslo’r digwyddiad.”

O ganlyniad i benllanw ar noson 5 Tachwedd, y bwriad oedd lansio’r tân gwyllt o fad ar y môr. Fodd bynnag, dywedodd cyflenwr morol profiadol y cyngor o Abertawe fod gwyntoedd cryfion wedi’u rhagfynegi ar gyfer yr ardal, ac oherwydd hyn ni all y sioe fynd yn ei blaen.

Trafodwyd opsiynau ar gyfer dyddiadau amgen, y byddai’n rhaid iddynt fod cyn digwyddiadau coffa’r wythnos nesaf, ond nid oedd y rhain yn addas.

Archwiliwyd i leoliadau amgen hefyd, gan gynnwys Pier y Gorllewin, Parc Singleton a safle San Helen, ond byddai pob un ohonynt yr un mor anaddas oherwydd glaw trwm a gwyntoedd.

Meddai’r Cyng. Francis Davies, “Byddwn yn awr yn canolbwyntio ar gyflwyno Gorymdaith y Nadolig wych ar 20 Tachwedd a byddwn yn edrych ymlaen at gynnal ein harddangosfa tân gwyllt flynyddol unwaith eto’r flwyddyn nesaf – yn amodol ar y tywydd.”