Mae’r dail wedi dechrau cwympo, mae’r boreau’n oer ac mae’r nosweithiau’n dechrau tywyllu. Mae hynny’n golygu ein bod yn prysur nesáu at dymor newydd gyda llawer o ddigwyddiadau gwych yn cael eu cynnal o amgylch ein dinas.
Mae gan dîm Joio Bae Abertawe Cyngor Abertawe restr wych o ddigwyddiadau cyffrous i’r teulu (gan gynnwys digonedd o hwyl iasol a hwyl ychydig yn llai arswydus!) ar eich cyfer chi, neu eich rhai bach… gweler y rhestr lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau isod…
Ymunwch â’r adloniant, y gemau, y gweithdai a’r cymeriadau bwganllyd AM DDIM rhwng 11am a 4pm – bydd yn eich helpu i deimlo hwyl calan gaeaf.
Mae’r digwyddiad AM DDIM hwn yn cynnwys cerddoriaeth, tatŵs pefr, colur theatraidd, pwmpenni a phropiau erchyll er mwyn cael cyfle i dynnu lluniau a gweithdai crefftau.
Dewch wedi gwisgo yn eich gwisgoedd bwganllyd, cymerwch ran yn y llwybr ysbrydion yn y ddinas lle gallech ennill gwobrau diolch i Braces Bakery a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno yn yr orymdaith bwmpenni am 3pm – ‘dych chi’n siŵr o gael amser arswydus o arbennig!
Stori frawychus am Dywysoges, Swltan a Genie, llongddrylliad a môr-leidr anffodus sy’n cael ei drawsnewid yn fabŵn drwy’r amser! Ymunwch â Mam-gu/Nain Dingley a BBC NOW 3pm.
Gyda Scheherazade godidog, synhwyrus a thymhestlog Rimsky-Korsakov yn llwyfan cerddorol i’r stori, mae Nain-gu Dingley hoffus, ond ychydig yn ecsentrig (rydych chi wedi cael rhybudd!!) wrth law i’ch arwain drwy’r stori, eich cyflwyno i’r gerddorfa a hyd yn oed eich arwain mewn gweithgareddau cerddorol, sy’n berffaith ar gyfer y teulu cyfan.
Greg Arrowsmith arweinydd
Sam Morris Grandma Dingley
Ffordd frawychus o weld y bae.
Ydych chi’n ddigon dewr i deithio ar drên yr ysbrydion?
Ewch ar daith arswydus y Calan Gaeaf hwn wrth i Drên Bach Bae Abertawe fynd ar daith frawychus ar hyd y promenâd.
Bydd y trên bach poblogaidd hwn wedi’i addurno’n frawychus, felly dewch yn eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau i fwynhau’r amgylchedd arswydus.
Bydd y trên yn gadael Lido Blackpill ac yn teithio am oddeutu 45 munud cyn dychwelyd i Lido Blackpill.
Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw felly archebwch nawr i osgoi cael eich siomi
Amserau’r teithiau: 16:30, 17:15, 18:00, 18:45
Ewch i mewn os ydych yn ddigon dewr! Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel pob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.
Gan droedio’n ofalus, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o gwmpas pob cornel? Wedi’i ysbrydoli gan y ffilmiau mwyaf arswydus a’r creadigaethau mwyaf dychrynllyd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw – ydych chi’n ddigon dewr i gael gwybod? Beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen!
Mae 4 slot amser ar gael rhwng 5.30pm a 10.15pm. Mae’n frawychus, felly byddwch yn wyliadwrus…
Yn addas i blant 12+ oed, rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Dewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 6:30pm ar Galan Gaeaf am noson o gwestiynau cwis am bethau gwyddonol rhyfeddol ac anhygoel!
Lizzie Daly, y biolegydd, darlledwr ac archwiliwr, fydd yn cyflwyno’r digwyddiad a bydd yn cael ei guradu gan dim hanes natur yr amgueddfa.
Dewch â’ch tîm (Timau o 6 ar y mwya’) i gystadlu oedran 7+.
£6.50pp, ar gael trwy wefan yr Amgueddfa
Ymunwch â ni ar gyfer ystod eang o sioeau, a gweithdai ynghyd â llawer o stondinau am ddim.
Paratowch i gael eich rhyfeddu gan ein sioe Swigod, weld ein gwesteion o Plantasia a’u ffrindiau gwyllt, archwilio’r gofod yn yr Academi Gofodwyr.
Adeiladwch fatri, a darganfod sut byddai’r hen Eifftiaid yn mymio eu meïrwon.
Trefnwch eich apwyntiad gyda hwyl!
David Walliams’ Demon Dentist
Peidiwch â cholli’r stori syfrdanol hon gan gynhyrchwyr y West End sydd wedi cynhyrchu Gangsta Granny a Billionaire Boy gan David Walliams, dwy sioe a enwebwyd ar gyfer Gwobr Olivier! Mae’n addo bod y sioe fwyaf doniol a chyffrous eto!
Cynhelir Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Cyngor Abertawe sydd AM DDIM ar hyd Bae Abertawe ar 5 Tachwedd 2022 o 6pm!
Bydd y digwyddiad yn agor o 6pm gyda digon o fwyd a diod! Bydd gweithgareddau cyn yr arddangosfa, a bydd yr arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm!
*Noddir gan Nathaniel Cars a Choleg Gŵyr Abertawe.
Gyda’r tywydd yn oeri, mae’n bryd i’r Tîm Chwaraeon ac Iechyd symud ein sesiynau dan do.
Mae digon ar gyfer y teulu cyfan yr hanner tymor hwn – o feiciau cydbwyso i hwyl Nerf, mynyddfyrddio a T’ai Chi, yn ogystal â 3 gwersyll gwahanol.
Rydyn ni’n gyffrous i chi ymuno yn yr hwyl!
Mae digon i’w fwynhau yng Nghanolfan Dylan Thomas yr hanner tymor hwn, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Dylan a’i holl gerddi am yr hydref. Bydd ein Sgwadiau Sgwennu Ifanc yn cynnal gweithdai arbennig gyda Jonathan Edwards, enillydd y wobr farddoniaeth Costa, a byddwn yn mynd â’n gweithdai ysgrifennu creadigol ar daith i lyfrgelloedd Brynhyfryd a Phontarddulais. Bydd hefyd gennym weithdy galw heibio difyr am ddim yng Nghanolfan Dylan Thomas, a bydd gweithgareddau hunanarweinedig ar gael drwy gydol yr wythnos.
Dewch i Oriel Gelf y Glynn Vivian yr hanner tymor hwn ar gyfer gweithdai calan gaeaf a ffilmiau i deuluoedd am ddim.
Galwch heibio – does dim angen cadw lle.
Pa ddigwyddiadau sydd ar ddod?
Bydd nifer o ddigwyddiadau calan gaeaf bwganllyd yn cael eu cynnal ar draws Abertawe’r mis Hydref hwn!
O amser stori arswydus, i helfeydd trysor iasol, rhagor o wybodaeth yma
Mae digon i’w fwynhau yng Nghanolfan Dylan Thomas yr hanner tymor hwn, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Dylan a’i holl gerddi am yr hydref. Bydd ein Sgwadiau Sgwennu Ifanc yn cynnal gweithdai arbennig gyda Jonathan Edwards, enillydd y wobr farddoniaeth Costa, a byddwn yn mynd â’n gweithdai ysgrifennu creadigol ar daith i lyfrgelloedd Brynhyfryd a Phontarddulais. Bydd hefyd gennym weithdy galw heibio difyr am ddim yng Nghanolfan Dylan Thomas, a bydd gweithgareddau hunanarweinedig ar gael drwy gydol yr wythnos.